Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Newidiadau i'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol
Mae ein cofrestr o bleidiau yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am bleidiau gwleidyddol, disgrifiadau ac arwyddluniau cofrestredig, ac mae'n dangos pa enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer pob plaid ar hyn o bryd.
Newidiadau hyd at gyhoeddi'r hysbysiad o etholiad
Gall disgrifiadau unrhyw blaid gofrestredig ar gofrestr y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol gael eu dileu neu eu newid hyd at ac yn cynnwys y diwrnod cyn y dyddiad gwirioneddol y caiff yr hysbysiad etholiad ei gyhoeddi.
Mae'n bwysig nodi nad dyma'r diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad etholiad ond y dyddiad y caiff yr hysbysiad ei gyhoeddi mewn gwirionedd.1
Unwaith y caiff yr hysbysiad etholiad ei gyhoeddi, ni fydd unrhyw newidiadau tebyg i unrhyw ddisgrifiadau pleidiau yn berthnasol ar gyfer yr etholiad hwnnw.2
Er enghraifft, os byddwch yn penderfynu cyhoeddi eich hysbysiad etholiad cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad yn ôl y gyfraith, mae'n bosibl y gellir cyflwyno enwebiad sy'n cynnwys disgrifiad plaid gofrestredig nad yw'n ymddangos mwyach ar y gofrestr o bleidiau.
Os cafodd y disgrifiad ei ddileu ar ôl i chi gyhoeddi eich hysbysiad etholiad ond cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad, nid yw'r broses o ddileu yn berthnasol i'ch etholiad ac mae'r ‘hen’ ddisgrifiad yn ddilys o hyd. O dan amgylchiadau o'r fath, gallwch holi tîm lleol y Comisiwn a yw'r disgrifiad a gyflwynwyd o'r blaid yn gymwys ar gyfer eich etholiad.3
Newidiadau hyd at ddeuddydd cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Dylech hefyd nodi y gall pleidiau newid enw ac arwyddluniau cofrestredig eu plaid, ac ychwanegu unrhyw ddisgrifiad newydd os oeddent wedi cofrestru llai na 12 yn flaenorol, unrhyw bryd tan ddeuddydd cyn y dwirnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu ar gyfer yr etholiad hwnnw.4
Mae'n rhaid i bleidiau newydd hefyd gael eu cofrestru ddeuddydd cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu ar gyfer yr etholiad hwnnw, er mwyn defnyddio enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau yn yr etholiad hwnnw.
Mae'r tabl isod yn nodi'r terfynau amser ar gyfer gwneud newidiadau i'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol yn ystod y cyfnod cyn etholiad. Ar ôl hynny, nid yw unrhyw newidiadau i ddisgrifiadau pleidiau neu achosion o ddileu unrhyw ddisgrifiadau pleidiau yn berthnasol ar gyfer yr etholiad hwnnw.5
Beth mae'r blaid am ei wneud i'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol? | Pryd y gellir gwneud hyn? |
---|---|
Cofrestru pleidiau newydd | Heb fod yn hwyrach na dau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn yr etholiad hwnnw |
Ychwanegu unrhyw ddisgrifiadau newydd lle cedwir llai na 12 | Heb fod yn hwyrach na dau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn yr etholiad hwnnw6 |
Addasu enwau a/neu arwyddluniau'r blaid | Heb fod yn hwyrach na dau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn yr etholiad hwnnw7 |
Dileu neu newid unrhyw ddisgrifiad cofrestredig | Hyd at ac yn cynnwys y diwrnod cyn y dyddiad gwirioneddol ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad etholiad8 |
Disgrifiad plaid – nad yw wedi'i gofrestru eto
Pan fydd ymgeisydd yn ceisio cyflwyno papur enwebu sy'n cynnwys disgrifiad nad yw wedi'i gofrestru eto, dylech hysbysu'r ymgeisydd i beidio â chyflwyno'r papur yn ffurfiol, ond i'w dynnu'n ôl a'i gyflwyno unwaith y bydd y disgrifiad wedi'i gofrestru'n llwyddiannus.
Os bydd ymgeisydd yn cyflwyno ei ffurflen enwebu yn ffurfiol gyda disgrifiad nad yw wedi'i gofrestru eto, rhaid i chi nodi bod yr enwebiad yn annilys ar y sail nad oedd y disgrifiad a roddwyd, pan wnaed y penderfyniad, yn cyfateb i unrhyw ddisgrifiad a oedd wedi'i gofrestru â'r Comisiwn.9
Efallai y byddwch am gysylltu â thîm lleol y Comisiwn i gael cadarnhad nad yw disgrifiad wedi'i gofrestru eto cyn gwneud eich penderfyniad.
- 1. Adran 30(6A), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 30 (6A), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 30 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 30 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 30 (6A) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 30 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 30 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 30(6A) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 1 Rheol 6A Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 9