Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Defnyddio enwau pleidiau a disgrifiadau pleidiau

Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru hyd at 12 disgrifiadi  a chyfieithiadau Cymraeg y disgrifiadau hynny.

Rhaid i chi wirio bod enw'r blaid neu'r disgrifiad a roddir ar y ffurflen enwebu wedi'i gofrestru ar gofrestr y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol (yn agor mewn ffenestr newydd) a'i fod yn cyfateb yn union iddo. Rhaid i'r blaid hefyd gael ei rhestru fel un sydd â'r hawl i gyflwyno ymgeiswyr yn y rhan honno o'r DU y mae'r ymgeisydd yn sefyll ynddi. Os nad ydyw, rhaid i chi wrthod yr enwebiad hwnnw.ii
   
Hyd yn oed os yw plaid gofrestredig yn hysbys iawn, mae'n hanfodol gwirio'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol am union fanylion y blaid fel y'i cofrestrwyd gyda'r Comisiwn.

Yng Nghymru, gall ymgeisydd ddefnyddio naill ai’r fersiwn Gymraeg, y fersiwn Saesneg, neu'r ddau fersiwn o naill ai enw neu ddisgrifiad y blaid, cyhyd â'i fod ar y gofrestr. Rhestrir cyfieithiadau o enwau pleidiau ar y wefan o dan ‘enw arall’ a rhestrir cyfieithiadau o ddisgrifiadau i'r dde o'r disgrifiad o dan gyfieithiad(au). Mewn etholiad Senedd y DU, os nad yw'r blaid wedi cofrestru cyfieithiad, ni ellir defnyddio cyfieithiad o unrhyw enw plaid neu ddisgrifiad.

Yn achos unrhyw heriau yn y dyfodol ac er mwyn cynnal trywydd archwilio clir, dylech argraffu copi o'r rhan berthnasol o'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol (yn agor mewn ffenestr newydd) yn dangos disgrifiadau ac enw'r blaid ar adeg eich penderfyniad.

Pa ddisgrifiadau y gellir eu defnyddio? 

Dim ond un o'r disgrifiadau canlynol y gall ymgeisydd ei ddefnyddioiii  
  
•    y gair ‘Annibynnol’ neu ‘Independent’ 
•    enw plaid gofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig 
•    un o'r disgrifiadau y mae'r blaid wedi'u cofrestru gyda'r Comisiwn

Tystysgrif awdurdodi

Os yw ymgeisydd yn dymuno defnyddio enw plaid neu ddisgrifiad, rhaid i hyn gael ei awdurdodi gan Swyddog Enwebu’r blaid (neu berson sydd wedi’i awdurdodi i weithredu ar ei ran).iv   

Rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno tystysgrif awdurdodi, wedi'i llofnodi gan neu ar ran Swyddog Enwebu'r blaid, erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.

Gallwch wirio pwy yw'r Swyddog Enwebu ar gyfer plaid benodol drwy gyfeirio at ein cofrestr o bleidiau gwleidyddol (yn agor mewn ffenestr newydd). Fodd bynnag, cyn belled â bod y person sydd wedi llofnodi'r dystysgrif yn honni ei fod wedi'i awdurdodi i wneud hynny gan y Swyddog Enwebu cofrestredig, dylid cymryd y dystysgrif yn ôl ei golwg.

Mae rhai ymgeiswyr yn darparu dogfen yn dangos dirprwyo pwerau i awdurdodi defnyddio enw plaid neu ddisgrifiad i rywun arall (a elwir weithiau yn ‘dystysgrif Swyddog Enwebu Lleol’ neu ‘dystysgrif Dirprwy Swyddog Enwebu’).

Nid oes angen cyflwyno'r ddogfen hon gan nad yw'n rhan o'r papur enwebu, ac felly, nid oes ei hangen. Felly, os caiff ei chyflenwi, gall fod yn gopi.

Gall Swyddog Enwebu sefyll fel ymgeisydd. Os bydd hyn yn digwydd, gall yr ymgeisydd, fel Swyddog Enwebu, awdurdodi ei ddisgrifiad ei hun. Gall person sydd wedi'i awdurdodi gan y Swyddog Enwebu i lofnodi tystysgrif awdurdodi hefyd fod yn ymgeisydd a llofnodi tystysgrif ar gyfer ei enwebiad ei hun.

Disgrifiad ar gyfer Llefarydd Tŷ'r Cyffredin

Gall Llefarydd presennol Tŷ’r Cyffredin ddefnyddio’r disgrifiad ‘Y Llefarydd sy’n ceisio cael ei ailethol’ (neu ‘The Speaker seeking re-election’ yn Saesneg). Nid oes angen i'r defnydd o'r disgrifiad hwn o dan yr amgylchiadau hyn gael ei gefnogi gan dystysgrif awdurdodi nac unrhyw dystiolaeth ddogfennol. Ni all unrhyw ymgeisydd o'r fath ofyn am arwyddlun plaid, ac felly ni all unrhyw arwyddlun o unrhyw fath gael ei argraffu ar y papur pleidleisio wrth ymyl ei enw. Er y gall Llefarydd presennol Tŷ’r Cyffredin ddefnyddio’r disgrifiad ‘Y Llefarydd sy’n ceisio cael ei ailethol’, nid oes gofyniad iddo wneud hynny. Felly, byddai'r paragraffau blaenorol ar ddisgrifiad yr ymgeisydd a'r dystysgrif awdurdodi yn berthnasol iddo (yr un fath ag unrhyw ymgeisydd arall).

Defnyddio disgrifiadau ar y cyd

Gall ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran mwy nag un blaid wleidyddol ddefnyddio disgrifiad ar y cyd sydd wedi'i gofrestru gyda'r Comisiwn.v  Rhaid i ymgeiswyr o'r fath gyflwyno tystysgrif awdurdodi a roddwyd gan bob un o Swyddogion Enwebu'r pleidiau (neu bersonau a awdurdodwyd i weithredu ar eu rhan) erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.vi
   
Rhestrir disgrifiadau ar y cyd ar y gofrestr o bleidiau gwleidyddol (yn agor mewn ffenestr newydd). I'w gweld, ewch i'r dudalen gofrestru ar gyfer y pleidiau perthnasol ac o fewn yr adran disgrifiadau, bydd unrhyw ddisgrifiad ar y cyd yn cael ei ddilyn gan y geiriau (Disgrifiad ar y Cyd gyda'r blaid xx). 

Er enghraifft, Yr Ymgeisydd Plaid Sgwâr a Chylch (Disgrifiad ar y Cyd â'r Blaid Cylch) yw sut y byddai'r disgrifiad ar y cyd yn cael ei restru ar dudalen y Blaid Sgwâr. Mae'r geiriau mewn cromfachau at ddibenion esboniadol yn unig ac nid ydynt yn rhan o'r disgrifiad, ac felly, ni ddylid eu cynnwys ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd na'r papurau pleidleisio.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Medi 2024