Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Y weithdrefn ar gyfer rhoi pleidleisiau post newydd yn lle rhai a gollwyd/nas derbyniwyd

Pan fydd pleidleisiwr yn honni ei fod naill ai wedi colli ei bapur pleidleisio drwy'r post, ei ddatganiad pleidleisio drwy'r post neu amlenni 'A' a/neu 'B', neu nad yw wedi eu cael, mae'n bosibl rhoi pecyn pleidleisio drwy'r post newydd o 4 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.1  

Rhaid i'r pleidleisiwr wneud cais yn bersonol a dim ond â llaw2 y gellir rhoi'r pecyn newydd os gwneir y cais am becyn pleidleisio drwy'r post newydd rhwng 5pm ar y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio a 5pm ar y diwrnod pleidleisio ei hun.   

Rhaid i chi roi pecyn pleidleisio drwy'r post newydd os ydych yn fodlon ar bwy yw'r pleidleisiwr ac nad oes gennych unrhyw reswm dros amau nad yw wedi colli neu dderbyn y pecyn pleidleisio drwy'r post gwreiddiol.3  

Er mwyn sefydlu pwy yw'r pleidleisiwr drwy'r post, dylid cymryd camau cymesur sy'n ceisio defnyddio rhyw fath o brawf adnabod y gellir ei gadarnhau'n hawdd gan staff, ond nad yw'n rhy feichus ar yr etholwr. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn pennu pa fathau o ddulliau adnabod sy'n ofynnol ond rhaid i'r Swyddog Canlyniadau fodloni ei hun ynghylch pwy yw'r etholwr.4 I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar argymhellion ar gyfer cadarnhau pwy yw etholwyr er mwyn ailanfon pleidleisiau post

Dylech ystyried p'un a oes angen i drefniadau penodol gael eu gwneud ar gyfer yr etholwyr hynny na allant ddod i'r swyddfa etholiadau'n bersonol, er enghraifft oherwydd anabledd neu am eu bod dramor. Er enghraifft, gallech ystyried derbyn copïau wedi'u sganio o brawf adnabod a restrir yn yr adran nesaf drwy e-bost, neu drwy ddefnyddio technoleg fideo-alw. 

Os na fydd pob rhan o'r pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i cholli neu wedi dod i law, rhaid i'r etholwr ddychwelyd y dogfennau hynny sydd ganddo. Yna, mae'n ofynnol i chi ganslo'r dogfennau hynny ar unwaith.5

Gall pleidleiswyr ffonio eich swyddfa i ofyn am becyn pleidleisio drwy'r post newydd os nad yw eu pleidlais bost wedi cyrraedd. Os felly, dylai eich staff eu hysbysu am y weithdrefn ar gyfer rhoi pecyn newydd ac egluro pa brawf adnabod y bydd ei angen cyn y caiff pecyn pleidleisio drwy'r post newydd ei roi.  

Cadw cofnodion o bapurau pleidleisio drwy'r post a gollwyd/nas derbyniwyd6

Pan fyddwch yn rhoi pleidlais bost newydd yn lle un a gollwyd neu nas derbyniwyd, rhaid i chi ychwanegu enw a rhif etholwr yr etholwr at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a gollwyd.7 Fodd bynnag, ni ddylid ychwanegu enw'r etholwr os yw wedi'i gofrestru'n ddienw. Rhaid hefyd ychwanegu rhif papur pleidleisio'r papur pleidleisio newydd at y rhestr. Yn achos dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post, rhaid i enw a chyfeiriad y dirprwy gael eu hychwanegu at y rhestr, ynghyd â'r manylion eraill. 

Mae'r tabl hwn yn crynhoi'r weithdrefn ar gyfer anfon pleidleisiau post newydd yn lle rhai a gollwyd neu nas derbyniwyd:

Cam Cam i'w gymryd
Cam 1 Nid oes darpariaethau ar gyfer casglu papur pleidleisio drwy'r post a adroddwyd ei fod wedi'i golli / heb ei dderbyn, ond cyn cymryd y camau nesaf mae'n arfer da i wirio a yw'r pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i farcio wedi'i ddychwelyd ar y rhestr o bleidleiswyr post neu'r rhestr o bleidleiswyr post drwy ddirprwy.
Cam 2

Sicrhau eich bod yn fodlon o ran pwy yw'r pleidleisiwr post drwy ofyn am brawf adnabod

Cam 3

Os mai dim ond rhan o'r pecyn pleidleisio drwy'r post y mae etholwr wedi'i cholli, rhaid dychwelyd y rhannau sy'n weddill pan ofynnir am becyn newydd. Rhaid canslo'r rhannau a gaiff eu dychwelyd, eu selio yn y pecyn ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post a gollwyd ac ychwanegu manylion at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd

Cadarnhau a yw'r datganiad pleidleisio drwy'r post a anfonwyd yn wreiddiol wedi cael ei farcio fel un a ddychwelwyd ar y rhestr pleidleiswyr post neu'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post.

Cam 4 Anfon pecyn pleidleisio drwy'r post newydd (papur(au) pleidleisio, datganiad pleidleisio drwy'r post a'r amlenni perthnasol) at yr etholwr
  • Os gwneir y cais ar ôl 5pm ar y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio, dim ond yn bersonol y gellir rhoi'r pecyn newydd i'r etholwr
Cam 5 Ychwanegu enw* a rhif yr etholwr a rhif y papur(au) pleidleisio newydd at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a gollwyd
  • ar gyfer dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, dylid hefyd ychwanegu enw a chyfeiriad y dirprwy
  • ni ddylid ychwanegu enw etholwyr a gofrestrwyd yn ddienw

At ddibenion casglu data ar gyfer y datganiad papurau pleidleisio drwy'r post (Ffurflen K)7 , dylech hefyd ychwanegu manylion unrhyw bapurau pleidleisio sydd wedi'u colli a ganslwyd ar y rhestr o'r holl bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar

.7

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023