Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Y weithdrefn ar gyfer rhoi pleidleisiau post newydd yn lle rhai a ddifethwyd
Os bydd unigolyn yn difetha ei bapur pleidleisio drwy'r post a/neu ei ddatganiad pleidleisio drwy'r post, mae'n bosibl y gall gael pecyn pleidleisio drwy'r post newydd. Gellir rhoi pecyn newydd hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.1
Rhaid dychwelyd pob rhan o'r pecyn pleidleisio drwy'r post cyn y gellir anfon pecyn newydd, p'un a ddifethwyd y rhannau hyn ai peidio.2
Mae hyn yn cynnwys:
- rhaid i'r papur pleidleisio a ddifethwyd neu'r datganiad pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd gael ei ddychwelyd atoch, ynghyd â'r papur pleidleisio neu'r datganiad pleidleisio drwy'r post sy'n weddill
- yn amlen ddychwelyd ‘B’
- amlen y papur pleidleisio – ‘A’
Yna gellir rhoi pecyn pleidleisio drwy'r post newydd i'r etholwr.
O dan y ddeddfwriaeth, rhaid canslo unrhyw bapurau pleidleisio a datganiadau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd a gaiff eu dychwelyd a'u selio mewn pecyn ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd, hyd yn oed os mai dim ond un ohonynt a ddifethwyd mewn gwirionedd.3
Mewn rhai amgylchiadau gallwch ganslo pleidlais bost yr ystyrir ei bod wedi'i difetha, hyd yn oed os ydyw wedi'i dychwelyd i'r Swyddog Canlyniadau. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid casglu a selio'r papur pleidlais bost a ddifethwyd a'r datganiad pleidleisio drwy'r post fel y disgrifir uchod.4
Os gwneir y cais am becyn pleidleisio drwy'r post newydd rhwng 5pm ar y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio a 5pm ar y diwrnod pleidleisio ei hun, gellir ond roi'r bleidlais bost newydd i'r etholwr os dychwelir y dogfennau a ddifethwyd yn bersonol.5
Mewn achosion o'r fath, dim ond yn bersonol hefyd y gellir rhoi pecyn newydd.
Rhaid i chi roi system ar waith sy'n eich galluogi i gyflwyno pecynnau newydd hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.5
Bydd angen i chi ystyried hyn yn benodol os byddwch wedi rhoi'r gwaith o anfon pleidleisiau post ar gontract allanol.
Bydd angen i chi ystyried a oes angen rhoi trefniadau penodol ar waith ar gyfer etholwyr anabl wrth wneud trefniadau ynghylch rhoi papurau pleidleisio newydd yn lle rhai a ddifethwyd, oherwydd gall fod rhai etholwyr na allant ddod i'r swyddfa etholiadau oherwydd anabledd.
Cadw cofnodion o bapurau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd6
Rhaid ychwanegu enw a rhif etholiadol yr etholwr at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd er mwyn dangos bod y bleidlais bost a ddifethwyd wedi cael ei chanslo. Fodd bynnag, ni ddylid ychwanegu enw'r etholwr os yw wedi'i gofrestru'n ddienw. Rhaid hefyd ychwanegu rhif papur pleidleisio'r papur pleidleisio newydd at y rhestr. Yn achos dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post, rhaid i enw a chyfeiriad y dirprwy gael eu hychwanegu at y rhestr, ynghyd â'r manylion eraill.
Mae'r tabl hwn yn crynhoi'r weithdrefn ar gyfer anfon pleidleisiau post newydd yn lle rhai a ddifethwyd:
Cam | Cam i'w gymryd |
---|---|
Cam 1 | Cyn cymryd y camau nesaf, mae'n arfer da i wirio a yw'r pecyn pleidlais bost wedi'i farcio wedi'i ddychwelyd ar y rhestr o bleidleiswyr post neu'r rhestr o bleidleiswyr post drwy ddirprwy - yn yr achos hwn cyfeiriwch at gasglu papurau pleidlais a ganslwyd |
Cam 2 | Gofyn bod y pecyn pleidlais bost cyfan yn cael ei ddychwelyd |
Cam 3 | Anfon pecyn pleidleisio drwy'r post newydd (papur(au) pleidleisio, datganiad pleidleisio drwy'r post a'r amlenni perthnasol) at yr etholwr
|
Cam 4 |
Canslo unrhyw bapurau pleidleisio a datganiadau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd a gafodd eu dychwely
|
Cam 5 |
Selio'r dogfennau a ganslwyd mewn pecyn ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd ac ychwanegu manylion at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd. |
Cam 6 |
Ychwanegu enw* a rhif etholiadol yr etholwr a rhif y papur(au) pleidleisio newydd at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd. Ar gyfer dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, dylid hefyd ychwanegu enw a chyfeiriad y dirprwy. *Ni ddylid ychwanegu enw etholwyr a gofrestrwyd yn ddienw.
|
At ddibenion casglu data ar gyfer y datganiad papurau pleidleisio drwy'r post (Ffurflen K)7 , dylech hefyd ychwanegu manylion unrhyw bapurau pleidleisio a ddifethwyd sydd wedi'u canslo ar y rhestr o'r holl bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd (gweler ein canllawiau ar gadw cofnodion ar gyfer papurau pleidleisio a ganslwyd).
- 1. Para 41(3) Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 41(2) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 41(6) a (7) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Para 41(4) ac (8) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012, Atodlen 2, paragraffau 41(4) a (8) ↩ Back to content at footnote 5 a b
- 6. Para 41(9) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Para 59(1)(b) Atodlen 2 PCCEO ↩ Back to content at footnote 7