Rhaid i becynnau pleidleisio drwy'r post a anfonir at etholwyr cofrestredig dienw gael eu hanfon mewn amlen neu orchudd nad yw'n datgelu bod yr etholwr wedi'i gofrestru'n ddienw.1
Dylech anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post at etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw mewn amlen blaen. Ni ddylai'r datganiad pleidleisio drwy'r post gynnwys enw'r etholwr ychwaith.2
Fel rhan o'ch paratoadau ar gyfer anfon pleidleisiau post, dylech gytuno â'ch argraffwyr ar broses a fydd yn eich galluogi i wneud hyn.
Bydd cofnodion y Swyddog Cofrestru Etholiadol o geisiadau a ganiatawyd yn cynnwys y cyfeiriad a ddewiswyd gan yr etholwr dienw ar gyfer anfon ei bleidlais bost iddo.
1. Adran 9B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, fel y'i cymhwyswyd gan Adran 2, Dehongli o Orchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1