Ar ôl anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post ar y cam cychwynnol, bydd angen anfon sypiau dilynol o becynnau pleidleisio drwy'r post lle bydd etholwyr wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post yn agos at y terfyn amser ar gyfer pleidleisio absennol, sef 5pm, un diwrnod gwaith ar ddeg cyn y diwrnod pleidleisio.1
Mae'n debyg y bydd eisoes yn gyfnod prysur yn yr amserlen etholiad pan gaiff unrhyw sypiau dilynol o becynnau pleidleisio drwy'r post eu hanfon, felly mae'n bwysig bod y trefniadau angenrheidiol ar waith gennych er mwyn anfon a dosbarthu sypiau dilynol o becynnau pleidleisio drwy'r post mor gyflym ac effeithlon â phosibl.
Dylech sicrhau'r canlynol:
bod digon o staff gennych i oruchwylio'r broses gyffredinol, p'un a ydych yn dosbarthu pleidleisiau post yn fewnol, neu'n defnyddio darparwr allanol
bod eich argraffydd yn ymwybodol o amserlenni trosglwyddo data a, lle y bo'n gymwys, ddosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post
bod prosesau ar waith gennych i fonitro a sicrhau ansawdd y broses o gynhyrchu a dosbarthu sypiau dilynol o becynnau pleidleisio drwy'r post yn barhaus
Trefniadau arbennig ar gyfer anfon sypiau ad-hoc o becynnau pleidleisio drwy'r post
Dylech drefnu bod system ar waith i sicrhau y gallwch anfon sypiau ychwanegol nas trefnwyd.
Er enghraifft, os dewch yn ymwybodol bod un neu fwy o etholwyr yn mynd i fod ar wyliau neu i ffwrdd ar fusnes erbyn i'r swp nesaf o bleidleisiau post a drefnwyd gael ei anfon dylech, cyn belled ag y bo'n ymarferol, anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post at yr etholwyr unigol hynny y tu allan i'ch cynllun dosbarthu a drefnwyd.