Dylai unrhyw becynnau pleidleisio drwy'r post i'w hanfon dramor gael eu blaenoriaethu er mwyn caniatáu digon o amser i'r pecyn pleidleisio gyrraedd yr etholwr a chael ei gwblhau a'i ddychwelyd. Fel rhan o'ch paratoadau ar gyfer anfon pleidleisiau post, dylech gytuno â'ch argraffwyr ar broses a fydd yn eich galluogi i wneud hyn.
Dylai pleidleisiau post sy'n mynd dramor gael eu hanfon drwy wasanaeth post awyr (neu gan Swyddfa'r Post Lluoedd Prydain ar gyfer pleidleiswyr perthnasol yn y lluoedd arfog) fel bod cymaint o amser â phosibl iddynt dderbyn, cwblhau a dychwelyd pleidleisiau post. Dylai pecynnau pleidleisio drwy'r post a anfonir dramor gael eu didoli a'u marcio ar gyfer y dosbarthwr er mwyn eu hanfon drwy'r gwasanaeth priodol.
Dylech gysylltu â'r Post Brenhinol ynghylch cost cludiant ar gyfer anfon eitemau dramor a sicrhau bod y gost gywir o ran cludiant ar bob pecyn pleidleisio drwy'r post sy'n mynd allan.
Rhaid i chi gynnwys amlen er mwyn hwyluso dychwelyd y pecyn pleidleisio drwy'r post,1
ond ar gyfer eitemau a anfonir dramor, ni ddylai'r amlen gynnwys stamp dychwelyd ar gyfer y DU oherwydd ni fydd yn ddigon i ddychwelyd y pecyn pleidleisio drwy'r post i'r DU a gallai beri oedi wrth ddychwelyd y pecyn pleidleisio drwy'r post a gwblhawyd. Yn hytrach, dylech wneud trefniadau gyda'r Post Brenhinol i ddefnyddio trwydded ymateb busnes ryngwladol ar bob amlen dychwelyd a roddir mewn pecynnau pleidleisio drwy'r post a anfonir i gyfeiriadau dramor er mwyn hwyluso'r broses o ddychwelyd pecynnau pleidleisio drwy'r post wedi'u cwblhau yn brydlon o'r tu allan i'r DU.
Os nad yw'n realistig o bosibl i becyn pleidleisio drwy'r post gael ei anfon, ei gwblhau a'i ddychwelyd cyn diwedd y cyfnod pleidleisio, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hysbysu'r etholwr am y ffaith hon a'i gynghori i benodi dirprwy yn ei le.
Wrth gwrs, dewis yr etholwr yw pa ddull o bleidleisio sydd orau ganddo, ond mae'n bwysig hysbysu etholwyr yn llawn o'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'u dewis fel y gallant wneud penderfyniad hyddysg.