Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Paratoi cofnod o'r pleidleisiau post hynny sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion

Bydd y canllawiau hyn yn cael eu diweddaru gyda'r mesurau Ymdrin â Phleidleisiau Post o'r Ddeddf Etholiadau unwaith y bydd yr is-ddeddfwriaeth berthnasol wedi'i gosod a'r prosesau wedi'u cwblhau. Byddwn yn cadarnhau pryd y caiff hwn ei gyhoeddi drwy'r Bwletin GE.

Ar ôl etholiad, mae'n ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol hysbysu pleidleiswyr drwy'r post os gwrthodwyd eu pleidlais bost am iddi fethu gwiriadau dynodyddion personol a'u hysbysu am y rheswm penodol dros ei gwrthod. Rhaid i chi gadw cofnod o'r categorïau rydych yn gwrthod datganiadau pleidleisio drwy'r post unigol oddi tanynt er mwyn gwneud hyn. 

Rhaid rhoi cyfrif am bob datganiad pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd. Rhaid i chi gadw rhestr o'r pleidleisiau post hynny sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion personol. 

Rhaid i'r rhestr hon gynnwys, ar gyfer pob pleidlais bost o'r fath a wrthodwyd1 :

  • enw a chyfeiriad yr etholwr (ac enw a chyfeiriad y dirprwy os oes gan yr etholwr un)
  • rhif yr etholwr ar y gofrestr etholwyr (a rhif y dirprwy os oes gan yr etholwr un)
  • y rheswm neu'r rhesymau penodol dros wrthod y datganiad pleidleisio drwy'r post
  • unrhyw wybodaeth arall sy'n ymwneud â'r penderfyniad i wrthod sy'n briodol yn eich barn chi, ond nid rhif neu rifau'r papur pleidleisio

Mae'r rhesymau penodol dros wrthod datganiad pleidleisio drwy'r post fel a ganlyn: 

  • nid yw'r llofnod yn cyfateb i'r enghraifft a gedwir ar y cofnod dynodyddion personol
  • nid yw'r dyddiad geni yn cyfateb i'r un a gedwir ar y cofnod dynodyddion personol
  • mae'r blwch llofnod yn wag
  • mae'r blwch dyddiad geni yn wag

Os bydd pleidleisiwr drwy'r post yn ymddangos ar y rhestr o bleidleisiau post sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion personol, mae'n ofynnol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hysbysu'r pleidleisiwr drwy'r post o'r penderfyniad i wrthod o fewn tri mis i ddyddiad yr etholiad. 

Etholaethau trawsffiniol

Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, rhaid i chi anfon y rhannau perthnasol o'r rhestr hon at y Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill. Rhaid gwneud hyn pan fyddwch yn anfon yr holl ddogfennau etholiadol perthnasol eraill at y Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol. 

Paratoi cofnod o'r pleidleisiau post hynny sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion

Nid oes rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol anfon hysbysiad os byddwch yn amau bod trosedd wedi'i chyflawni mewn perthynas â phleidlais bost benodol1 .  

Felly, dylech gadw cofnod o unrhyw achosion lle rydych yn amau bod trosedd wedi'i chyflawni a'u hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol, fel ei fod yn gwybod ym mha achosion na ddylai anfon hysbysiad gwrthod dynodyddion pleidlais bost. Dylech wneud hyn pan fyddwch yn anfon yr holl ddogfennau etholiadol eraill at y Swyddog Cofrestru Etholiadol.

Lle yr amheuir twyll, dylech roi cynnwys y pecyn pleidleisio drwy'r post mewn pecyn ar wahân a hysbysu eich Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu lleol. Dylech drafod y pecyn pleidleisio drwy'r post cyn lleied â phosibl a, lle bo modd, wneud nodyn o bawb sydd wedi ei drafod.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ynghylch anfon hysbysiadau gwrthod dynodyddion pleidleisiau post. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2024