Er mwyn osgoi unrhyw oedi posibl i'r prosesau dilysu a chyfrif, dylech sicrhau bod angen agor cyn lleied o bleidleisiau post â phosibl ar y cam dilysu a chyfrif. Dylech sicrhau bod unrhyw becynnau o bleidleisiau post a dderbyniwyd sydd wedi'u cyflwyno mewn gorsafoedd pleidleisio neu i swyddfeydd y cyngor yn cael eu dosbarthu i chi cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod rhaid i chi gymryd camau rhesymol i ddechrau cyfrif y pleidleisiau cyn gynted ag sy'n ymarferol ac o fewn pedair awr o gau'r cyfnod pleidleisio.
Rhaid i chi sicrhau bod y pleidleisiau post yn cael eu hagor, boed hynny yn y lleoliad dilysu a chyfrif neu rywle arall, yng ngolwg unrhyw ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr sy'n bresennol.1
Fel gydag unrhyw sesiynau agor eraill, mae'n ofynnol i chi roi hysbysiad o amser a lleoliad y sesiwn agor pleidleisiau post olaf.2
Ar ôl cwblhau'r sesiwn agor pleidleisiau post olaf, mae'n ofynnol i chi selio a storio amryw flychau a dogfennau'n ddiogel. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn yn ein canllawiau: Sicrhau diogelwch papurau pleidleisio a deunyddiau eraill.
Cadw cofnod o becynnau pleidleisio drwy'r post anghyflawn a ddychwelwyd
Drwy gydol y broses agor, byddwch wedi cadw dwy restr o bapurau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd dros dro:3
un i gofnodi rhif papur pleidleisio unrhyw bapur pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd heb ddatganiad pleidleisio drwy'r post
yr ail i gofnodi rhif papur pleidleisio unrhyw ddatganiad pleidleisio drwy'r post na chafodd ei ddychwelyd gyda'r papur pleidleisio drwy'r post
Ar ôl y sesiwn agor olaf, y rhain fydd:
y rhestr derfynol o bapurau pleidleisio heb ddatganiad pleidleisio drwy'r post dilys a dderbyniwyd
y rhestr derfynol o ddatganiadau pleidleisio drwy'r post dilys a dderbyniwyd heb rai o'r papurau pleidleisio neu bob un ohonynt
1. Paragraffau 31 a 32 Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012)↩ Back to content at footnote 1