Dylech ddarparu pecynnau i orsafoedd pleidleisio ar gyfer:
pleidleisiau post a dderbyniwyd
ffurflenni dogfennau pleidleisiau post a ddychwelwyd ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd
pleidleisiau post a dderbyniwyd a wrthodwyd
Dylai nifer ac arddull y pecynnau fod yn seiliedig ar ffurflenni i orsafoedd pleidleisio yn yr etholiadau cyfatebol diwethaf, ond dylech gadw mewn cof y posibilrwydd o ymgysylltiad a diddordeb hwyr yn yr etholiad a allai effeithio ar y nifer sy'n pleidleisio.
Dylid cadw cofnodion o'r holl becynnau o'r fath fel y gellir rhoi cyfrif am bob un. Dylai'r pecynnau gael eu labelu'n glir a dylent nodi:
eu bod yn cynnwys pleidleisiau post
eu bod yn cynnwys naill ai pleidleisiau post a dderbyniwyd neu a wrthodwyd neu ffurflenni dogfennau pleidleisio drwy’r post a ddychwelwyd
enw’r orsaf bleidleisio
y dynodydd gorsaf bleidleisio
Diogelwch pleidleisiau post a ddychwelwyd
Dylech sicrhau bod modd selio'r pecynnau'n ddiogel.
Mae gan asiantiaid pleidleisio yr hawl i atodi eu sêl i becynnau wedi'u selio cyn iddynt gael eu symud o'r orsaf bleidleisio ac, felly, rhaid caniatáu iddynt wneud hynny.2
Fel rhan o'ch hyfforddiant, dylech bwysleisio i Swyddogion Llywyddu pa mor bwysig yw sicrhau diogelwch pleidleisiau post a gaiff eu dychwelyd i orsafoedd pleidleisio. Dylid rhoi'r pleidleisiau post yn y pecynnau a ddarperir yn syth a dylech sicrhau bod y pecynnau'n cael eu storio'n ddiogel drwy gydol y dydd. Unwaith y bydd ffurflen dogfennau pleidleisio drwy'r post wedi'i chwblhau yn y modd cywir, dylid ei gosod ar unwaith yn y pecynnau perthnasol a ddarperir a dylai'r Swyddog Llywyddu sicrhau bod y pecynnau'n cael eu storio'n ddiogel drwy gydol y dydd.
Dylech drefnu i bleidleisiau post gael eu casglu o orsafoedd pleidleisio drwy gydol y dydd gan y bydd hyn yn helpu i leihau'r nifer y bydd angen ymdrin â hwy ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio. Gall arolygwyr gorsafoedd pleidleisio gyflawni'r ddyletswydd hon. Dylech sicrhau bod prosesau ar waith i gynnal trywydd archwilio clir a sicrhau diogelwch pecynnau o bleidleisiau post a gasglwyd wrth iddynt gael eu cludo. Rhaid dychwelyd pleidleisiau post a wrthodwyd yn eu pecyn ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio