Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Rhestrau rhifau cyfatebol

Rhaid i chi baratoi a darparu rhestr rhifau cyfatebol ar gyfer pob gorsaf bleidleisio.1 Mae'r rhestr rhifau cyfatebol yn ddogfen benodedig y gellir ei gweld yn yr atodiad i'r rheolau etholiad. Nid oes unrhyw ddarpariaeth i ffurf debyg gael ei defnyddio.2  

Mae dau fath o restr rhifau cyfatebol: mae un rhestr i'w defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio, ac mae'n cynnwys rhifau papurau pleidleisio a cholofn i ychwanegu rhifau etholwyr pleidleiswyr y dosbarthwyd y papurau pleidleisio hynny iddynt.3  

Mae'r rhestr arall i'w defnyddio yn ystod sesiynau dosbarthu pleidleisiau post, ac mae'n cynnwys rhif a marc adnabod unigryw pob papur pleidleisio a baratoir, yn ogystal â rhifau etholwyr pleidleiswyr drwy'r post. I gael rhagor o wybodaeth am y broses agor pleidleisiau post, gweler ein canllawiau ar Dderbyn ac agor pleidleisiau post.

Cyfuno

Pan gaiff dwy bleidlais neu fwy eu cyfuno, rhaid i chi baratoi a darparu rhestr rhifau cyfatebol gyfunol ar gyfer pob gorsaf bleidleisio.4  

Bydd angen i chi ystyried sut y byddwch yn llunio'r rhestrau rhifau cyfatebol cyfunol i'w defnyddio mewn etholiadau cyfunol. Un ateb posibl fyddai defnyddio darn o bapur gwahanol ar gyfer pob etholiad, ond a gaiff eu dwyn ynghyd wedyn mewn rhyw ffordd (er enghraifft, drwy stwffwl) ar ddiwedd y broses. 

Os cyfunwyd y gwaith o ddosbarthu pleidleisiau post, rhaid defnyddio rhestr rhifau cyfatebol gyfunol wrth ddosbarthu pleidleisiau post.5  

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023