Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Beth yw'r drefn ar gyfer derbyn pleidleisiau post a gyflwynir i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor?

Dylech sicrhau bod unrhyw berson yr ydych yn ei awdurdodi i weithredu ar eich rhan i ddosbarthu unrhyw bleidleisiau post a gyflwynwyd i chi, yn cael hyfforddiant ar:
•    y weithdrefn i'w dilyn ar gyfer pleidleisiau post sy'n cael eu cyflwyno a,
•    sut i gynorthwyo unigolion i gwblhau'r ffurflen pleidlais bost.

Mae’r weithdrefn arferol ar gyfer person awdurdodedig i’w dilyn ar gyfer pleidleisiau post a gyflwynir fel a ganlyn:

Cam 1 – dywedwch wrth yr unigolyn y bydd angen iddo ddarparu rhai manylion i ddychwelyd y pleidleisiau post

Eglurwch fod yn rhaid llenwi'r ffurflen pleidlais bost yn gywir neu bydd y pleidleisiau post yn cael eu gwrthod.

Cam 2 – Cwblhau adran 1 o’r ffurflen pleidleisio drwy’r post:

Rhaid cofnodi’r wybodaeth ganlynol yn adran 1:

a yw'r unigolyn yn cyflwyno ei bleidlais bost ei hun (gan gwblhau'r blwch Ie neu Na fel sy'n briodol ar y ffurflen)a yw'r unigolyn yn cyflwyno pleidleisiau post ar ran unrhyw bobl eraill, ac os felly, faint

gall unigolion gyflwyno pleidleisiau post ar gyfer hyd at 5 person arall.a yw'r unigolyn yn ymgyrchydd gwleidyddol

gall ymgyrchwyr gwleidyddol gyflwyno pleidleisiau post ar gyfer hyd at 5 person arall cyn belled â'u bod yn berthnasau agos neu'n bobl y maent yn darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer.

Os yw'r unigolyn:

•    yn cyflwyno dim mwy na'r nifer o bleidleisiau post a ganiateir
•    wedi cadarnhau nad yw'n ymgyrchydd gwleidyddol neu
•    wedi cadarnhau ei fod yn ymgyrchydd gwleidyddol ond yn cyflwyno pleidleisiau post ar gyfer perthnasau agos neu bobl y maent yn darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer: 
       o    rhaid llenwi'r blychau perthnasol ar y ffurflen a chofnodi cyfanswm y pleidleisiau post sydd i'w cyflwyno ar y ffurflen.

Cam 3 – Cwblhau adran 2 y ffurflen cyflwyno pleidlais bost

Gofynnwch i’r unigolyn wirio bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn adran 1 yn gywir a chwblhau’r meysydd canlynol yn adran 2:
•    eu henw
•    eu cyfeiriad
•    (os yw'n berthnasol) y rheswm dros gyflwyno pleidleisiau post ar ran pobl eraill

Rhaid i’r unigolyn ddarllen a chwblhau’r datganiad, gan gadarnhau:

•    nad ydynt wedi cyflwyno mwy na'r nifer o bleidleisiau post a ganiateir
•    nad ydynt yn ymgyrchydd gwleidyddol, neu 
•    maent yn ymgyrchydd gwleidyddol a dim ond wedi cyflwyno eu pleidlais bost eu hunain a/neu bleidlais perthynas agos, neu rywun y maent yn darparu gofal rheolaidd ar ei gyfer

Rhaid i'r unigolyn wedyn lofnodi a dyddio'r ffurflen.

Cam 4 – Cwblhau adran 3 o'r ffurflen pleidleisio drwy'r post

Rhaid i'r person awdurdodedig lenwi adran 3. Gwiriwch fod adrannau 1 a 2 wedi'u llenwi'n gywir.

Os ydych yn fodlon bod
•    y ffurflen pleidlais bost wedi'i chwblhau'n gywir gyda'r wybodaeth ofynnol
•    yr unigolyn dim ond wedi cyflwyno’r nifer o bleidleisiau post y mae ganddo hawl iddynt, ac
•    nad yw’r unigolyn yn ymgyrchydd gwleidyddol, neu’n ymgyrchydd gwleidyddol sydd ond wedi cyflwyno ei bleidlais bost ei hun a/neu bleidleisiau post perthnasau agos neu bobl y mae’n darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer.

dylech lenwi adran 3A o'r ffurflen i gadarnhau hyn a derbyn y pleidleisiau post.

Cam 5 – rhoi diolch i’r unigolyn a chadarnhau bod y pleidleisiau post wedi’u derbyn ac y byddant yn cael eu hanfon ymlaen at y Swyddog Canlyniadau.
Cam 6 – Rhoi pleidleisiau post a dderbyniwyd yn y pecyn ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd

Ar ôl eu derbyn, rhowch y bleidlais bost/pleidleisiau post heb ei/eu hagor, yn y pecyn a ddarperir.

Rhaid cadw'r pecyn yn ddiogel bob amser. Rhaid ei gyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau yn unol â'u cyfarwyddiadau.

Cam 7 – Rhowch y ffurflen pleidleisio drwy'r post wedi'i chwblhau yn y pecyn priodol.

Dylid cadw'r ffurflen pleidleisio drwy'r post wedi'i chwblhau ar wahân i'r pecyn sy'n cynnwys y pleidleisiau post a dderbyniwyd a'i danfon at y Swyddog Canlyniadau. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Chwefror 2024