Rhestr wrthod papurau pleidleisio a ffurflen gwerthuso ID pleidleisiwr
Rhaid i chi ddarparu dogfennau i bob gorsaf bleidleisio sy'n dal gwybodaeth yn ymwneud â'r gofynion ID pleidleisiwr.
Rhestr Wrthod Papur Pleidleisio
Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr
Taflen nodiadau’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr
Defnyddir taflen nodiadau’r Rhestr Wrthod Papur Pleidleisio a thaflen nodiadau'r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr drwy gydol y dydd i gasglu a chofnodi gwybodaeth mewn perthynas â’r gofyniad ID pleidleisiwr:
Dogfen
Gwybodaeth a gesglir
Rhestr Wrthod Papur Pleidleisio
Nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd ar sail:
nid oedd yr ID ffotograffig yn debyg iawn
credai'r Swyddog Llywyddu mai ffugiad oedd yr ID ffotograffig
methodd yr etholwr ag ateb y cwestiynau rhagnodedig yn foddhaol
Byddai'r Rhestr Wrthod Papur Pleidleisio yn cael ei diweddaru pe bai etholwr yn dychwelyd yn ddiweddarach gyda math o ID ffotograffig a dderbynnir
Taflen nodiadau’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr
Nifer y Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr a ddefnyddir gan etholwyr (neu ddirprwyon) fel eu ID ffotograffig derbyniol
Nifer y Dogfennau Etholwyr a ddefnyddir gan etholwyr dienw fel eu ID ffotograffig derbyniol
Nifer yr etholwyr y gwiriwyd eu ID ffotograffig yn breifat
Nifer yr etholwyr na roddwyd papur pleidleisio iddynt a nifer yr etholwyr hyn a ddychwelodd yn ddiweddarach ac y rhoddwyd papur pleidleisio iddynt
Ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio bydd y Swyddog Llywyddu yn llenwi'r ffurflen gwerthuso dogfen ID pleidleisiwr gyda'r wybodaeth o daflen nodiadau'r Rhestr Wrthod Papur Pleidleisio a thaflen nodiadau'r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr.