| Argraffu'r canllawiau llawn

Herio'r canlyniad ar sail anghymhwysiad

Gall unrhyw un wneud cais i'r Uchel Lys am ddatganiad bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (neu, yn yr ardaloedd perthnasol, Gomisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu) wedi cael ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (neu, yn yr ardaloedd perthnasol, Gomisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu) nawr neu unrhyw bryd ers ei ethol.

Dylid cynghori unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais am ddatganiad anghymhwyso barnwrol geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023