| Argraffu'r canllawiau llawn

Dogfennau nad ydynt ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio

Nid yw'r ddogfennaeth ganlynol ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio, ac eithrio drwy orchymyn llys:

  • papurau pleidleisio
  • rhestrau rhifau cyfatebol wedi'u cwblhau
  • tystysgrifau cyflogaeth y rhai ar ddyletswydd ar y diwrnod pleidleisio
  • y rhestrau o bleidleisiau post a wrthodwyd sydd wedi methu’r gwiriadau dynodydd a’r pleidleisiau post a wrthodwyd ar yr adeg y’i cyflwynwyd (neu y’i gadawyd ar ôl) mewn gorsaf bleidleisio neu i swyddfeydd y cyngor 
  • ffurfleni pleidlais bost

Ni ellir gweld y dogfennau hyn oni bai bod yr Uchel Lys neu lys sirol yn fodlon ar sail tystiolaeth ar lw bod hynny'n ofynnol am un o'r rhesymau canlynol:

  • er mwyn cychwyn neu erlyn achos am drosedd yn ymwneud â phapurau pleidleisio
  • at ddibenion deiseb etholiadol

Gellir apelio i'r Uchel Lys yn erbyn unrhyw benderfyniad a wneir gan lys sirol yng Nghymru neu Loegr ynghylch mynediad.

Nid oes rhaid i'r ceisiadau gael eu gwneud mewn llys agored: gallant gael eu gwneud gan farnwr o'r llys perthnasol mewn llys agored neu fel arall.

Rhestrau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd

Y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am ymdrin â cheisiadau i ddatgelu gwybodaeth o'r rhestrau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mehefin 2026