| Argraffu'r canllawiau llawn

Amserlen yr etholiad

Amserlen yr etholiad 

Rydym wedi cyhoeddi amserlen nad yw'n cynnwys dyddiadau penodol yn amlinellu'r dyddiadau cau statudol fel y'u nodwyd yn y rheolau etholiadol y gellir ei defnyddio i'ch helpu gyda'ch gwaith cynllunio. 

Bydd amserlen sy’n cynnwys dyddiadau penodol ar gael ar ein gwefan cyn etholiadau sydd wedi’u trefnu.

Dylech sicrhau eich bod wedi rhoi trefniadau wrth gefn ar waith i'ch galluogi i ymateb a chynnal etholiad wedi'i drefnu'n dda pe bai is-etholiad yn codi. Pan gaiff etholiad ei alw bydd angen i chi adolygu eich cynlluniau a datblygu trefniadau ar gyfer amserlen a chyd-destun penodol yr etholiad.

  • Er eu bod yn swyddogaethau Swyddog Cofrestru Etholiadol, ceir rhagor o wybodaeth am y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau am y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a'r Ddogfen Etholwr Dienw yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cymru a Lloegr.

Ceir hefyd rhagor o wybodaeth am y dyddiadau cau o ran pleidlais bost ar gyfer Cymru a Lloegr a'r dyddiadau cau ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer Cymru a Lloegr yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2024