Beth mae angen i chi ei wneud gyda ffurflenni gwariant
Mae gofyn i chi anfon copïau o ffurflenni a datganiadau gwariant etholiad i'r Comisiwn cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn y ffurflen neu'r datganiad. Darparwch gopïau o'r anfonebau a'r derbynebau perthnasol os gwelwch yn dda.
Darparwch y wybodaeth ganlynol hefyd os gwelwch yn dda er mwyn ein galluogi i gynnal ein dyletswyddau cydymffurfiaeth:
datganiad o bleidiau a phersonau eraill a enwebwyd, hysbysiad o asiantiaid, a datganiad o'r canlyniad ar gyfer pob etholiad
cadarnhad o bwy sydd heb gyflwyno ffurflen neu ddatganiad
Y dull derbyn a ffefrir gennym yw trosglwyddo dogfennau'n ddiogel, a fydd yn gwneud y broses o ddanfon y ffurflenni hyn yn haws i chi. Gall y Comisiwn ddarparu mynediad i system trosglwyddo dogfennau diogel ar gais. Cysylltwch â ni drwy [email protected] i drefnu hyn.
Os yw'n well gennych chi, am bynnag reswm, e-bostio'r ffurflenni a'r datganiadau, yna e-bostwch gopïau PDF wedi'u sganio i [email protected]. Byddai o gymorth mawr i ni wrth brosesu ffurflenni a datganiadau a e-bostiwyd, ac yn atal i ni anfon ymholiadau atoch, petaech chi'n:
sganio ffurflen gwariant neu ddatganiad pob ymgeisydd, gyda'r anfonebau a'r derbynebau, ar wahân
anfon pob ffurflen dros e-bost ar wahân, gan y bydd atodiadau mawr iawn yn cael eu gwrthod gan ein gweinydd
nodi'r etholaeth ac enw'r ymgeisydd yn llinell bwnc yr e-bost
peidio â diogelu negeseuon e-bost drwy ddefnyddio cyfrineiriau na darparu cyfrineiriau na gwefannau diogel – mae e-bost arferol yn iawn
Os nad yw'r un o'r ddau opsiwn uchod yn bosibl, gallwch anfon copïau papur o'r ffurflenni gwariant i'r cyfeiriad canlynol:
Cyllid Plaid ac Etholiad Y Comisiwn Etholiadol Swyddfa Cymru Tŷ James William 9 Museum Place Cathays Caerdydd CF10 3BD