Rhaid i chi roi cyfleusterau rhesymol i asiantiaid cyfrif oruchwylio’r broses ddilysu a chyfrif pleidleisiau a darparu'r wybodaeth berthnasol iddynt.1
Mae gan asiantiaid cyfrif yr hawl i wneud y canlynol:
tynnu eich sylw at unrhyw bapurau pleidleisio amheus
anghytuno â’ch penderfyniad i wrthod papur pleidleisio ac mae’n rhaid i chi farcio’r papur pleidleisio hwnnw fel ‘gwrthwynebwyd y gwrthodiad’/’rejection objected to’
ychwanegu eu seliau personol pan fyddwch yn selio blychau pleidleisio ac amlenni os caiff cyfrif ei ohirio am unrhyw reswm neu os oes egwyl yn y broses.
Yn benodol, pan mae pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli'r papurau pleidleisio yn ôl yr ymgeisydd unigol a phlaid ac yna pob set o bapurau pleidleisio’n cael ei chyfrif, mae gan yr asiantiaid cyfrif yr hawl i fod yn fodlon bod y papurau pleidleisio wedi’u didoli'n gywir.2
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i asiantiaid cyfrif am yr amser a’r lle y bydd y broses ddilysu a chyfrif pleidleisiau yn dechrau.3
Gallwch gyfyngu nifer yr asiantiaid cyfrif, ond wrth wneud hynny rhaid i chi sicrhau:4
bod y nifer yr un fath ar gyfer pob ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol
ni ddylai’r nifer a ganiateir (ac eithrio amgylchiadau arbennig) fod yn llai na’r nifer a geir drwy rannu nifer y staff cyfrif gyda nifer yr ymgeiswyr unigol a phleidiau.