Copïo enwau a ddefnyddir yn gyffredin ar ddeunyddiau etholiad
Mae’r tabl isod yn cynnwys nifer o enghreifftiau ymarferol o gyfuniadau amrywiol o enwau a ddefnyddir yn gyffredin a sut y byddai hyn yn effeithio ar ymddangosiad enw’r ymgeisydd unigol neu restr plaid ar y datganiad ynghylch y personau a phleidiau a enwebwyd (fel sy’n briodol).
Cyfenw gwirioneddol yr ymgeisydd
Enwau eraill yr ymgeisydd yn llawn
Enwau cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin
Cyfenw a ddefnyddir yn gyffredin
Enw i'w roi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd neu’r datganiad ynghylch y pleidiau a’r personau eraill a enwebwyd a’r papur pleidleisio
Enw i’w roi ar y papurau pleidleisio
Etholwr
Ann
Elsie
Pleidleisiwr
Pleidleisiwr, Elsie
PLEIDLEISIWR, Elsie
Etholwr
Ann
[Gwag]
Pleidleisiwr
Pleidleisiwr, Ann
PLEIDLEISIWR, Ann
Etholwr
Ann
Elsie
[Gwag]
Etholwr, Elsie
ETHOLWR, Elsie
Etholwr-Bleidleisiwr
Ann
[Gwag]
Pleidleisiwr
Pleidleisiwr, Ann
PLEIDLEISIWR, Ann
Os bydd naill ai’r blwch enwau cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin neu’r blwch cyfenw a ddefnyddir yn gyffredin yn cael ei adael yn wag, yna bydd enwau cyntaf neu gyfenw gwirioneddol yr ymgeisydd, yn dibynnu ar ba flwch enw a ddefnyddir yn gyffredin sydd wedi’i adael yn wag, yn mynd ar y datganiad ynghylch y personau a phleidiau a enwebwyd, yr hysbysiad etholiad a'r papur pleidleisio.
Dylech gynghori’r ymgeiswyr unigol a’r ymgeiswyr plaid bod defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin yn berthnasol i’r datganiad ynghylch y pleidiau a phersonau a enwebwyd, yr hysbysiad o asiantiaid etholiad (pan mae ymgeisydd yn gweithredu fel asiant etholiad) a’r papur pleidleisio. Dylai enw gwirioneddol yr ymgeisydd ymddangos ar unrhyw ddogfennau sy’n ofynnol i ddangos enw’r ymgeisydd, fel yr argraffnod a ffurflenni gwariant yr ymgeisydd.
Gallwch hefyd ddefnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin wrth ddatgan y canlyniad ac wrth gyhoeddi’r hysbysiad o ganlyniad pan mae’r datganiad ynghylch y pleidiau a phersonau a enwebwyd yn dangos bod ymgeisydd yn defnyddio enw a ddefnyddir yn gyffredin. Dylech roi gwybod i’r holl bleidiau ac ymgeiswyr unigol os ydych yn bwriadu defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin yn y ffordd hon.
Os byddwch yn gwrthod y defnydd o enw a ddefnyddir yn gyffredin, ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd y ffurflen enwebu. Yn hytrach, yr effaith yw y bydd enw llawn yr ymgeisydd yn ymddangos ar y datganiad ynghylch y pleidiau a phersonau a enwebwyd (fel sy’n briodol), a’r papur pleidleisio. Dylid gwneud hyn yn glir i ymgeiswyr unigol, pleidiau ac asiantiaid ac mae’n rhaid i chi ysgrifennu at yr ymgeisydd yn nodi’r rheswm dros wrthod y defnydd o’r enw a ddefnyddir yn gyffredin.1