Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Y drefn ar gyfer ailddarparu pleidleisiau drwy’r post a gollwyd/nas derbyniwyd
Mae’r wybodaeth yn yr adran hon yn egluro sut i ymdrin â phapurau pleidleisio coll ac mae'n rhaid i chi ystyried hyn.1
Pan fydd pleidleisiwr yn honni ei fod naill ai wedi colli neu heb dderbyn ei bapur pleidleisio drwy’r post, datganiad pleidleisio drwy’r post neu amlenni ‘A’ a/neu ‘B’, mae’n bosibl i becyn pleidlais bost newydd gael ei ddarparu o 4 diwrnod gwaith cyn diwrnod y bleidlais hyd at 5pm ar ddiwrnod y bleidlais.2
Hyd at 5pm ar y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio, os yw’r cais am becyn pleidleisio drwy'r post newydd yn cael ei wneud wyneb yn wyneb, gellir darparu'r bleidlais bost newydd a'i rhoi â llaw i'r etholwr.3
Os derbynnir cais am becyn pleidlais bost newydd ar ôl 5pm ar y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr wneud cais wyneb yn wyneb4 a rhaid darparu'r pecyn newydd â llaw yn unig.5 Gallwch wrthod rhoi pecyn newydd i etholwr os oes gennych reswm i amau ei fod naill ai wedi colli neu heb dderbyn ei becyn pleidlais bost gwreiddiol.6
Rhaid i chi ailddarparu pecyn pleidlais bost os ydych chi’n fodlon ynglŷn â phwy yw’r pleidleisiwr post ac nad oes gennych unrhyw reswm i amau nad yw wedi colli neu heb dderbyn ei becyn pleidlais bost gwreiddiol.7
Er mwyn sefydlu pwy yw’r pleidleisiwr post, dylid mabwysiadu dull cymesur sy’n ceisio defnyddio rhyw fath o brawf adnabod y gall staff ei ddilysu’n hawdd, ond nad yw’n rhy feichus i’r etholwr. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn rhagnodi pa fathau o ID sy’n ofynnol ond rhaid i’r Swyddog Canlyniadau fod yn fodlon ynghylch pwy yw’r etholwr.8 Am ragor o wybodaeth, gweler ar ein canllawiau ar argymhellion profi hunaniaeth ar gyfer ail-ddarparu pleidleisiau post.
Dylech ystyried a oes angen rhoi trefniadau penodol ar waith ar gyfer yr etholwyr hynny nad ydynt yn gallu mynychu'r swyddfa'n bersonol, er enghraifft oherwydd anabledd neu am eu bod dramor. Er enghraifft, gallech ystyried derbyn copïau wedi’u sganio o dystiolaeth o hunaniaeth a restrir yn yr esiamplau yn yr adran nesaf dros e-bost, neu drwy ddefnyddio technoleg galwadau fideo.
Os nad yw pob rhan o'r pecyn pleidlais bost wedi'i golli neu heb ei dderbyn, rhaid i'r pleidleisiwr ddychwelyd y dogfennau hynny sydd ganddynt.9 Yna, mae’n ofynnol i chi ganslo'r dogfennau hynny ar unwaith.10
Gall pleidleiswyr ffonio eich swyddfa i holi am becyn pleidlais bost newydd os nad yw eu pleidlais bost wedi cyrraedd. Os felly, dylai eich staff roi gwybod am y weithdrefn ar gyfer ailddarparu ac egluro pa brawf adnabod y gofynnir iddynt ei ddangos cyn y caiff pecyn pleidlais bost newydd ei ddarparu.
Cadw cofnod o bapurau pleidleisio drwy’r post sydd wedi’u colli/heb eu derbyn
Pan fyddwch yn ailddarparu pleidlais bost oherwydd ei bod ar goll neu heb ei derbyn, rhaid i chi ychwanegu enw a rhif etholwr yr etholwr at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a gollwyd.11 Fodd bynnag, ni ddylid ychwanegu’r enw os yw’r etholwr wedi’i gofrestru’n ddienw.12 Rhaid ychwanegu rhifau papur pleidleisio’r papur(au) pleidleisio newydd at y rhestr hefyd.13 Yn achos dirprwy drwy'r post, rhaid ychwanegu enw a chyfeiriad y dirprwy at y rhestr ochr yn ochr â'r manylion eraill.
At ddibenion casglu data ar gyfer y datganiad o bapurau pleidleisio drwy’r post (Ffurf 6), rhaid ichi hefyd ychwanegu manylion unrhyw bapurau pleidleisio coll sydd wedi’u canslo at y rhestr o’r holl bapurau pleidleisio drwy’r post sydd wedi’u canslo.14 Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gadw cofnod o bapurau pleidleisio a ganslwyd.
Mae’r tabl yn crynhoi’r weithdrefn ar gyfer ailddarparu pleidleisiau drwy’r post sydd wedi'u colli neu sydd heb eu derbyn:
| Cam | Camau i'w cymryd |
|---|---|
| Cam 1 | Nid oes unrhyw ddarpariaethau i adalw papur pleidleisio drwy'r post yr adroddir ei fod ar goll / heb ei dderbyn, ond cyn cymryd y camau nesaf mae'n arfer da gwirio a yw'r pecyn post wedi'i farcio fel un sydd wedi'i ddychwelyd ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu’r rhestr pleidleiswyr dirprwy drwy’r post |
| Cam 2 | Sicrhau eich bod yn fodlon ynghylch pwy yw’r pleidleisiwr drwy’r post drwy ofyn am brawf hunaniaeth |
| Cam 3 | Pan fydd etholwr wedi colli rhan o’i becyn pleidleisio drwy’r post yn unig, rhaid dychwelyd y rhannau sy’n weddill wrth wneud cais am un arall. Rhaid canslo’r rhannau a ddychwelwyd, eu selio yn y pecyn ar gyfer papurau pleidleisio drwy’r post a gollwyd a rhoi’r manylion ar y rhestr o bapurau pleidleisio drwy’r post a ganslwyd |
| Cam 4 | Darparu pecyn pleidlais bost newydd (papur pleidleisio, datganiad pleidleisio drwy’r post a’r amlenni perthnasol) i’r etholwr
|
| Step 5 | Ychwanegu enw* a rhif etholiadol yr etholwr a rhif y papur pleidleisio newydd at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post sydd wedi'u colli
*Peidio â chynnwys enw’r etholwyr sydd wedi’i gofrestru’n ddienw |
Etholaethau trawsffiniol
Pan fydd etholaeth yn cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, efallai y bydd angen cynnal y broses o ail-ddarparu pleidleisiau post mewn mwy nag un lleoliad yn yr etholaeth. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd angen ichi benodi dirprwyon o awdurdodau lleol eraill, fel sy’n briodol.
- 1. Atodlen 2, Paragraff 15(14), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2, Rheol 15(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2, Paragraff 15(12), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2, Paragraff 15(9), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 2, Paragraff 15(12), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 2, Paragraff 15(8), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 2, Paragraff 15(7), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 2, Paragraff 15(7)(a), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 2, Paragraff 15(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 2, Paragraff 15(4), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Atodlen 2, Paragraff 15(10), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Atodlen 2, Paragraff 15(10)(a), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 12
- 13. Atodlen 2, Paragraff 15(10)(b), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 13
- 14. Atodlen 2, Paragraff 15(10), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 14