Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Y drefn ar gyfer ail-ddarparu pleidleisiau drwy’r post a ddifethwyd
Os yw person yn difetha ei bapur pleidleisio drwy’r post a/neu ei ddatganiad pleidleisio drwy’r post, mae modd iddo gael pecyn pleidleisio drwy’r post newydd. Gellir darparu rhai newydd hyd at 5pm ar ddiwrnod y bleidlais.1
Rhaid dychwelyd pob rhan o’r pecyn pleidlais bost cyn y gellir darparu un arall, ni waeth a yw’r rhain wedi cael eu difetha ai peidio.2 Mae hyn yn cynnwys:
- y papur(au) pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd neu'r datganiad pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd ynghyd â'r papur(au) pleidleisio neu'r datganiad pleidleisio drwy'r post sy'n weddill
- amlen ddychwelyd ‘B’
- amlen papur pleidleisio ‘A’
Yna, gellir darparu pecyn pleidlais bost newydd i’r etholwr.
Yn ôl y ddeddfwriaeth, mae’n ofynnol i unrhyw ddatganiadau pleidleisio drwy’r post neu bapurau pleidleisio a ddifethwyd gael eu canslo a’u selio mewn pecyn ar gyfer papurau pleidleisio post a ddifethwyd, hyd yn oed os dim ond un ohonynt sydd wedi’i ddifetha.3
Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ganslo pleidlais drwy’r post yr ystyrir ei bod wedi’i difetha, hyd yn oed os yw wedi’i dychwelyd i’r Swyddog Canlyniadau.4 Yn yr achos hwn, rhaid i’r datganiad pleidleisio drwy’r post a’r papur pleidleisio a ddychwelwyd gael eu galw’n ôl a’u selio fel y disgrifir uchod.
Gall etholwr ddychwelyd dogfennau a ddifethwyd â llaw neu drwy’r post hyd at 5pm y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio. Os gwneir y cais am becyn pleidleisio drwy'r post newydd wyneb yn wyneb, gellir cyhoeddi a rhoi'r bleidlais bost newydd i’r etholwr.5
Ar ôl 5pm y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio, rhaid dychwelyd unrhyw ddogfennau a ddifethwyd a gwneud ceisiadau am becynnau pleidleisio drwy’r post newydd wyneb yn wyneb.6 Mewn achosion o’r fath, dim ond â llaw y gellir rhoi un newydd i’r etholwr.7
Rhaid i chi roi systemau ar waith i’ch galluogi i ddarparu rhai newydd hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad. Bydd angen i chi roi ystyriaeth benodol i hyn os ydych wedi rhoi’r gwaith o ddarparu pleidleisiau drwy’r post ar gontract allanol.
Dylech ystyried a oes angen rhoi trefniadau penodol ar waith ar gyfer etholwyr anabl wrth wneud trefniadau i ailddarparu papurau pleidleisio a ddifethwyd, oherwydd efallai na fydd rhai etholwyr yn gallu mynychu'r swyddfa etholiadol oherwydd anabledd.
Cadw cofnodion o bapurau pleidleisio a ddifethwyd
Rhaid ychwanegu enw a rhif etholiadol yr etholwr at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy’r post sydd wedi’u difetha i ddangos bod y bleidlais drwy’r post a ddifethwyd wedi cael ei chanslo.8 Fodd bynnag, ni ddylid ychwanegu’r enw os yw’r etholwr wedi’i gofrestru’n ddienw. Rhaid ychwanegu rhif papur pleidleisio'r papur pleidleisio newydd at y rhestr hefyd.9 Yn achos dirprwy drwy'r post, rhaid ychwanegu enw a chyfeiriad y dirprwy at y rhestr ochr yn ochr â'r manylion eraill.10
At ddibenion casglu data ar gyfer y datganiad o bapurau pleidleisio drwy'r post (Ffurf 6), rhaid ichi hefyd ychwanegu manylion unrhyw bapurau a ddifethwyd ac a ganslwyd at y rhestr o'r holl bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd.11 Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gadw cofnod o bapurau pleidleisio a ganslwyd.
Mae’r tabl hwn yn crynhoi’r weithdrefn ar gyfer ailddarparu pleidleisiau drwy’r post sydd wedi’u difetha:
| Cam | Camau i'w cymryd |
|---|---|
| Cam 1 | Cyn cymryd y camau nesaf, mae’n arfer da gwirio a yw’r pecyn post wedi’i farcio fel un sydd wedi’i ddychwelyd ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu'r rhestr o bleidleiswyr post drwy ddirprwy – os dyma’r achos, cyfeiriwch at adalw papurau pleidleisio a ganslwyd |
| Cam 2 | Gofyn am ddychwelyd y pecyn post cyflawn |
| Cam 3 | Darparu pecyn pleidlais bost newydd (papur pleidleisio, datganiad pleidleisio drwy’r post a’r amlenni perthnasol) i’r etholwr
|
| Cam 4 | Canslo unrhyw bapurau pleidleisio wedi'u difetha a ddychwelwyd a datganiadau pleidleisio drwy’r post |
| Cam 5 | Selio'r dogfennau sydd wedi'u canslo mewn pecyn ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post sydd wedi'u difetha ac ychwanegu manylion at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post sydd wedi'u canslo |
| Cam 6 | Ychwanegu enw* a rhif etholiadol yr etholwr a rhif y papur(au) pleidleisio newydd at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post sydd wedi'u difetha.
*Peidio â chynnwys enw’r etholwyr sydd wedi’u cofrestru’n ddienw. |
Etholaethau trawsffiniol
Pan fydd etholaeth yn cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, efallai y bydd angen cynnal y broses o ail-ddarparu pleidleisiau post mewn mwy nag un lleoliad yn yr etholaeth. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd angen ichi benodi dirprwyon o awdurdodau lleol eraill, fel sy’n briodol.
- 1. Atodlen 2, paragraff 14, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2, paragraff 14(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2, paragraff 14(8), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 1, paragraff 11(6), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 2, paragraff 14(5)(a), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 2, paragraff 14(4), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 2, paragraff 14(5)(b), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 2, paragraff 14(10)(a), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 2, paragraff 14(10)(b), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 2, paragraff 14(10)(c), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Atodlen 2, paragraff 16(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 11