Er mwyn osgoi unrhyw oedi posibl i’r prosesau dilysu a chyfrif, dylech gadw nifer y pleidleisiau post sydd eto i’w hagor yn ystod y dilysu a’r cyfrif mor isel â phosibl. Dylech sicrhau bod unrhyw becynnau o bleidleisiau post a ddanfonwyd i orsafoedd pleidleisio neu i swyddfeydd y cyngor yn cael eu hanfon atoch cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Rhaid i chi sicrhau bod y pleidleisiau post, p'un a ydynt yn cael eu hagor yn y dilysu a’r cyfrif neu yn rhywle arall, yn cael eu hagor yng ngŵydd unrhyw ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr sy’n bresennol.1
Yn yr un modd â phob sesiwn agor arall, mae’n ofynnol i chi roi gwybod am amser a lleoliad y sesiwn olaf ar gyfer agor pleidleisiau post.2
Ar ôl cwblhau’r sesiwn agor pleidleisiau post derfynol, mae’n rhaid i chi selio a storio amrywiol gynwysyddion a dogfennau yn ddiogel. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar sicrhau diogelwch papurau pleidleisio.
Cadw cofnod o’r pecynnau pleidlais bost anghyflawn a ddychwelwyd
Byddwch wedi cadw dwy restr o bapurau pleidleisio drwy’r post a wrthodwyd dros dro drwy gydol y broses agor:
un i gofnodi rhif papur pleidleisio unrhyw bapur(au) pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd heb ddatganiad pleidleisio drwy'r post
ail restr i gofnodi rhif(au) papurau pleidleisio unrhyw ddatganiad pleidleisio drwy'r post sydd heb ei ddychwelyd gyda'r papur(au) pleidleisio drwy'r post
Ar ôl y sesiwn agor olaf, y rhain fydd:
y rhestr derfynol o bapurau pleidleisio heb ddatganiad pleidleisio drwy’r post dilys wedi’i dderbyn, a'r
rhestr derfynol o ddatganiadau pleidleisio drwy'r post dilys a dderbyniwyd heb rai neu'r holl bapurau pleidleisio.