Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Paratoi cofnod o’r pleidleisiau post hynny lle gwrthodir datganiad pleidleisio drwy’r post
Ar ôl etholiad, mae’n ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol roi gwybod i bleidleiswyr post os gwrthodwyd eu pleidlais bost oherwydd bod eu datganiad pleidleisio drwy’r post wedi’i wrthod.1 Rhaid ichi gadw cofnod o’r categorïau sy’n sail i’r rheswm yr ydych yn gwrthod datganiad pleidleisio drwy’r post unigol i allu gwneud hyn.2
Rhaid rhoi cyfrif am bob datganiad pleidleisio drwy’r post a wrthodwyd yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd.3
Rhaid i’r rhestr gynnwys, ar gyfer pob datganid pleidleisio drwy’r post a wrthodwyd:4
- enw a chyfeiriad yr etholwr (ac enw a chyfeiriad y dirprwy os oes gan yr etholwr ddirprwy)
- rhif yr etholwr ar y gofrestr etholwyr (a rhif y dirprwy os oes gan yr etholwr ddirprwy)
- y rheswm/rhesymau penodol dros wrthod y datganiad pleidleisio drwy'r post
- unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i wrthod y datganiad pleidleisio drwy’r post yr ydych yn ei hystyried yn briodol, ond nid rhif y papur pleidleisio.
Y rhesymau penodedig dros wrthod datganiad pleidleisio drwy'r post yw:5
- nid yw'r llofnod yn cyfateb i'r enghraifft a gedwir ar y cofnod dynodwyr personol
- nid yw’r dyddiad geni yn cyfateb i’r un sydd ar y cofnod dynodwyr personol
- mae'r man i roi llofnod yn wag
- mae'r man i roi dyddiad geni yn wag
Pan fydd pleidleisiwr post yn ymddangos ar y rhestr o bleidleisiau post oherwydd bod ei ddatganiad wedi’i wrthod, mae gofyn i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol hysbysu'r pleidleisiwr post o’r gwrthodiad ymhen tri mis o ddyddiad y bleidlais.6
Mae’r gofyn i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol anfon hysbysiad yn cael ei atal os:7
- nad yw'r person bellach yn cael ei ddangos fel un sy'n pleidleisio drwy'r post yn y rhestr berthnasol ar yr adeg y caiff yr hysbysiad ei anfon
- ydych chi’n amau y gall trosedd fod wedi’i chyflawni mewn perthynas â phleidlais bost benodol.
Felly, dylech wirio’r cofnodion perthnasol i weld a yw’r person yn bleidleisiwr post neu’n ddirprwy sy’n pleidleisio drwy’r post o hyd cyn ichi anfon yr hysbysiad. Dylid gwneud hyn ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon holl ddogfennau eraill yr etholiad at y Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Dylech hefyd gadw cofnod o unrhyw achosion lle rydych chi'n amau y gallai trosedd fod wedi'i chyflawni ar gyfer y Swyddog Cofrestru Etholiadol, fel ei fod yn gwybod ym mha achosion na ddylai anfon hysbysiad gwrthod dynodwr pleidlais bost.
Os oes amheuaeth o dwyll, dylech bacio cynnwys y pecyn pleidlais bost ar wahân a hysbysu Pwynt Cyswllt Sengl (SPOC) eich heddlu lleol. Dylech afael cyn lleied â phosibl yn y pecyn pleidlais bost a, lle bo'n bosibl, gwneud nodyn o bob person sydd wedi gafael yn y pecyn pleidlais bost.
Etholaethau trawsffiniol
Pan fydd etholaeth yn cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, rhaid ichi anfon rhannau perthnasol y gofrestr hon at Swyddog/Swyddogion Cofrestru Etholiadol mewn unrhyw awdurdod lleol arall. Rhaid gwneud hyn ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon yr holl ddogfennau etholiad perthnasol eraill at y Swyddog/Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
parhad
Am ragor o wybodaeth gweler ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyhoeddi hysbysiadau gwrthod dynodyddion pleidleisiau post.
- 1. Atodlen 1, Paragraff 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2, Paragraff 26, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2, Paragraff 26, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2, Paragraff 26(4), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 2, Paragraff 26(5), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 1, paragraff 5(1)(b), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 1, Paragraff 5(2)(b), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7