Mae ymgeisydd yn penderfynu codi arian ar wefan cyllido torfol i wario ar ei ymgyrch i gael ei ethol i'r Senedd. Cynhelir yr etholiad ar 7 Mai. Ar gyfer yr ymgeisydd hwn, mae'r cyfnod a reoleiddir yn dechrau ar 7 Ebrill.
Mae'r ymgeisydd yn creu tudalen cyllido torfol gyda therfyn amser o 30 Ebrill.
Mae'r ymgeisydd yn dewis llwyfan cyllido torfol sy'n casglu digon o wybodaeth gan roddwyr i sicrhau ei fod yn gallu cwblhau eu rhwymedigaethau cofnodi ac adrodd, ac sy'n caniatáu i roddion gael eu dychwelyd os ydynt yn rhai nas caniateir.
Mae'r ymgeisydd yn cynnwys y wybodaeth ganlynol ar ei dudalen cyllido torfol:
i bwy mae'r arian yn mynd ac at ba ddiben - "Rwy'n codi arian ar gyfer fy ymgyrch i gael fy ethol fel Aelod o'r Senedd”
rhoi gwybod y cynhelir gwiriadau caniatâd ar gyfer rhoddion a wneir dros £500
rhoi gwybod y bydd rhoddion yn cael eu dychwelyd os nad oes modd dilysu'r rhoddwr, neu ei fod yn ffynhonnell nas caniateir
rhoi gwybod y gall manylion am roddion gael eu hadrodd i Swyddogion Canlyniadau fel rhan o ffurflen yr ymgeisydd, a bod modd i'r Swyddog Canlyniadau drefnu bod y rhain ar gael i'r cyhoedd
argraffnod dilys
Erbyn y terfyn amser, mae'r ymgeisydd wedi codi £2,500. Mae'r arian, ar ôl tynnu ffioedd y llwyfan, yn cael ei drosglwyddo i'r ymgeisydd bum diwrnod gwaith yn ddiweddarach. Mae’r rhoddion yn cynnwys:
Rhodd A: £550 wedi'i wneud ar 10 Ebrill, enw a chyfeiriad cartref y rhoddwr wedi'u derbyn
Rhodd B: £600 wedi'i wneud ar 12 Ebrill, enw a chyfeiriad cartref y rhoddwr wedi'u derbyn
Rhodd C: rhodd preifat o £750 wedi'i wneud ar 14 Ebrill, enw a chyfeiriad e-bost y rhoddwr wedi'u derbyn
Sawl rhodd dan £500 wedi'u gwneud dros y cyfnod cyllido torfol
Mae'r ymgeisydd yn cael yr arian ar 7 Mai ac yn lawrlwytho gwybodaeth am y rhoddwyr o'r llwyfan cyllido torfol. Mae'r cyfnod 30 diwrnod ar gyfer eu gwiriadau caniatâd yn dechrau ar 7 Mai, gan mai dyma'r dyddiad derbyn.
Mae Rhodd A yn cael ei derbyn ar ôl i wiriadau caniatâd gael eu cynnal.
Mae'r ymgeisydd yn cynnal gwiriadau caniatâd ar Rhodd B ac yn canfod bod y rhodd wedi dod o ffynhonnell nas caniateir. Mae'r ymgeisydd yn dychwelyd y rhodd i'r rhoddwr drwy'r llwyfan cyllido torfol.
Dim ond enw a chyfeiriad cartref y rhoddwr sydd gan yr ymgeisydd ar gyfer Rhodd C. Nid yw'r wybodaeth hon yn ddigon i wirio caniatâd. Mae'r ymgeisydd yn cysylltu â'r rhoddwr i ofyn am ei gyfeiriad cartref, ond nid yw'n cael ymateb. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd wrthod y rhodd a'i dychwelyd i'r rhoddwr.
Nid oes angen i'r ymgeisydd wirio rhoddion dan £500.
Pan mae'r ymgeisydd yn cwblhau ei ffurflen, mae'n cofnodi'r rhoddion dros £500 a dderbyniodd, a'r rhai a gafodd eu dychwelyd. Ni chaiff rhoddion o £500 neu lai eu cofnodi. Mae'r ymgeisydd yn cofnodi'r ffioedd a godwyd gan y llwyfan o dan y categori costau llety a gweinyddol yn eu ffurflen gwariant.