Cyn creu tudalen cyllido torfol, dylech wirio nodweddion y llwyfan cyllido torfol. Dylech wneud yn siŵr y bydd gennych chi'r offer a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddilyn y gyfraith ar roddion.
Dylech gasglu digon o wybodaeth gan bob rhoddwr er mwyn sicrhau eich bod yn gallu:
Gwirio’n iawn bod pob rhodd dros £500 yn dod o ffynhonnell a ganiateir
Nodi p'un a yw rhoddion niferus wedi dod o'r un ffynhonnell
Cadw cofnod manwl gywir o'r rhoddion rydych wedi'u derbyn yn eich ffurflen gwariant a rhoddion
Dylech ddewis llwyfan cyllido torfol sy'n caniatáu i chi ddychwelyd rhoddion nas caniateir.
Rhoddion cyllido torfol preifat a rhoddion dienw
Yn y canllaw hwn, rydym yn cyfeirio at roddion cyllido torfol preifat a rhoddion dienw. Diffinnir y termau hyn yn y tabl isod:
Term
Ystyr
Rhodd cyllido torfol preifat
Nid yw manylion y rhoddwr yn weladwy ar dudalen cyllido torfol preifat ond darperir peth gwybodaeth i'r person a greodd y dudalen.
Er enghraifft, ni fyddai rhywun sy'n edrych ar dudalen cyllido torfol yn gallu dweud pwy wnaeth rhodd breifat o £750, ond gallai'r codwr arian gael enw a chyfeiriad e-bost y rhoddwr.
Rhodd ddienw
Ni ddarperir unrhyw wybodaeth am roddwr i'r person neu'r sefydliad sydd wedi cael y rhodd.
Fel y codwr arian, dylech wirio y rhoddir mynediad i chi at y wybodaeth sydd ei hangen arnoch am eich rhoddwyr.
Rhaid i chi beidio â derbyn rhoddion a wnaed yn ddienw, neu os nad ydych yn gallu nodi pwy yw'r rhoddwr.
Cewch dderbyn rhoddion cyllido torfol preifat, ar yr amod bod gennych chi'r manylion angenrheidiol i wirio a ydynt yn rhai a ganiateir.
Fodd bynnag, efallai eich bod yn dymuno ystyried a ydych am ganiatáu rhoddion cyllido torfol preifat ar gyfer eich ymgyrch.
Cael mynediad at yr arian a godwyd
Mae sawl ffordd wahanol y gall llwyfannau cyllido torfol drosglwyddo arian i godwyr arian. Efallai bydd rhai llwyfannau'n caniatáu i chi dynnu arian tra mae'ch ymgyrch yn mynd yn ei blaen, a bydd eraill ond yn trosglwyddo arian i chi ar ôl i'ch ymgyrch ddod i ben.
Gall yr amser mae'n ei gymryd i dderbyn arian ar ôl y terfyn amser amrywio hefyd, yn dibynnu ar ba lwyfan cyllido torfol rydych yn ei ddefnyddio.
Mae'n bwysig i chi ddeall pryd gallwch gael mynediad at arian. Ar ôl derbyn arian, mae'n rhaid i chi gynnal gwiriadau caniatâd ar roddion perthnasol a chadw cofnodion ar gyfer eich ffurflen gwariant a rhoddion. Rydym yn argymell eich bod yn cynllunio eich ymgyrch cyllido torfol fel y byddwch yn derbyn eich rhoddion gyda digon o amser i gwblhau'r gwiriadau sy'n ofynnol cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno'ch ffurflen.