| Argraffu'r canllawiau llawn

Adrodd am roddion cyllido torfol

Cyn cwblhau a chyflwyno'ch ffurflen gwariant a rhoddion, dylech sicrhau eich bod wedi cynnal gwiriadau caniatâd ar bob rhodd dros £500.

Yn eich ffurflen, mae'n ofynnol eich bod yn cofnodi'n unigol pob rhodd dros £500 rydych wedi'i derbyn a phob rhodd nas caniateir rydych wedi'i dychwelyd.

Rhoddion rydych chi wedi’u derbyn

Os ydych chi’n derbyn rhodd o dros £500, mae’n rhaid i chi gofnodi:

  • y manylion sy’n ofynnol ar gyfer y math o roddwr (gweler y dudalen berthnasol ar gyfer y math o roddwr)1
  • y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol)2
  • y dyddiad y gwnaethoch chi gael y rhodd
  • y dyddiad y derbyniwyd y rhodd3

Rhoddion rydych chi wedi’u dychwelyd

Os ydych chi’n cael rhodd gan ffynhonnell na chaniateir, mae’n rhaid i chi gofnodi’r manylion hyn:

  • swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd nad yw’n ariannol)4
  • enw a chyfeiriad y rhoddwr (oni bai bod y rhodd wedi’i rhoi yn ddienw)5
  • os yw’r rhodd wedi’i rhoi’n ddienw, manylion o sut y cafodd y rhodd ei gwneud6
  • y dyddiad y gwnaethoch chi gael y rhodd7
  • y dyddiad y gwnaethoch chi ddychwelyd y rhodd8
  • y camau y gwnaethoch eu cymryd i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, y person neu sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddo)9

Mae diffiniad o'r term 'rhodd ddienw' i'w gael yn Dewis llwyfan cyllido torfol.

Ffioedd llwyfannau cyllido torfol

Mae'n bosibl y bydd llwyfannau cyllido torfol yn codi ffioedd am drafodiadau rhodd, trosglwyddo arian, ac am ddefnyddio eu llwyfan. Mae'r ffioedd hyn yn cyfrif fel traul etholiad, ac mae'n rhaid i chi adrodd amdanynt yn eich ffurflen o dan y categori costau llety a gweinyddol.

Gall y ffioedd hyn fod yn ganran o'r rhoddion rydych yn eu cael. Mae'n rhaid i chi adrodd am werth llawn y rhoddion a dderbyniwyd10  ac adrodd ar y ffioedd ar wahân fel gwariant etholiad. Mae'n dderbyniol i'r ffioedd hyn gael eu cyfuno a'u hadrodd fel un llinell o wariant yn eich ffurflen.

Ar ôl yr etholiad

Bydd angen i chi adrodd am y manylion hyn yn eich ffurflen. Mae rhagor o wybodaeth am y ffurflen, a phryd mae angen i chi ei chyflwyno, i'w chael yn Cwblhau eich ffurflen.

Os ydych yn ansicr ynghylch pa ofynion adrodd sy'n berthnasol, gallwch gysylltu â ni am gyngor.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Hydref 2025