Dylech sicrhau bod eich tudalen cyllido torfol yn darparu gwybodaeth am bwy sy'n cael yr arian ac at ba ddiben. Er enghraifft, dylech ei gwneud yn glir p’un a yw’r arian yn cael ei godi i fodloni eich gwariant etholwr, i'w ddefnyddio ar gyfer eich ymgyrch i gael eich dewis fel ymgeisydd, neu ar gyfer ymgyrch etholiad plaid. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod trothwyon cofnodi ac adrodd gwahanol ar gyfer rhoddion ymgeiswyr a phleidiau.
Dylech sicrhau bod y dudalen yn cynnwys gwybodaeth er mwyn egluro y cynhelir gwiriadau caniatâd yn unol â'r gyfraith. Dylech fod yn glir ynghylch y rhesymau pam eich bod yn casglu unrhyw wybodaeth.
Yn ogystal, dylai'ch tudalen cyllido torfol egluro y gall gwybodaeth am roddion a rhoddwyr ar gyfer rhoddion dros £500, yn cynnwys rhoddion preifat, gael ei hadrodd i Swyddogion Canlyniadau. Mae Swyddogion Canlyniadau yn trefnu bod ffurflenni a baratowyd gan ymgeiswyr ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd ar ôl etholiadau. Mae diffiniad o'r term 'rhodd cyllido torfol preifat' i'w gael yn Dewis llwyfan cyllido torfol.
Rydym yn argymell eich bod yn glir ac yn egluro y bydd rhaid i'r rhodd gael ei dychwelyd os yw'r rhoddwr yn parhau'n anhysbys, neu ei fod yn rhoddwr heb ganiatâd. Os na fyddwch yn cael digon o wybodaeth am roddwr, efallai bydd angen i chi gysylltu â nhw i ofyn am ragor o fanylion.
Rydym yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar eich tudalen cyllido torfol. Mae rhagor o wybodaeth am argraffnodau digidol yn Argraffnodau.
Os ydych yn bwriadu creu ymgyrch cyllido torfol a'ch bod yn ansicr ynghylch pa ofynion sy'n berthnasol, neu sut i gynllunio eich ymgyrch i fodloni'r gofynion, gallwch gysylltu â ni am gyngor.