Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd
Rheoli rhoddion cyllido torfol
Rhoddion dros £500 o ffynhonnell a ganiateir yw'r unig rai y cewch chi eu derbyn.1 Mae rhagor o wybodaeth i'w chael am ffynonellau a ganiateir a sut i wirio caniatâd gwahanol fathau o roddwyr, yn Gan bwy allwch chi dderbyn rhodd?
Nid yw arian a roddir drwy dudalen cyllido torfol sy'n £500 neu'n llai yn rhodd mewn cyfraith etholiadol ac nid oes angen ei adrodd.2
Mae'n rhaid i chi beidio â derbyn rhodd gyda gwerth dros £500 os na allwch nodi'n union pwy yw'r rhoddwr, neu os yw'r rhoddwr yn ddienw.3 Rhodd ddienw yw pan na ddarperir unrhyw wybodaeth am roddwr i'r person neu'r sefydliad sydd wedi cael y rhodd.
Wrth dderbyn rhoddion, mae'n ofynnol eich bod yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle mae'n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi'r gyfraith ar ganiatâd, er enghraifft pe bai rhywun yn gwneud rhoddion niferus o £500 neu lai. Mae ceisio osgoi'r rheoliadau ar roddion yn drosedd.4 Os ydych yn bryderus y gallai hyn fod yn digwydd, cysylltwch â ni am gyngor.
Gwirio'r hyn a ganiateir
Ar ôl cael rhodd, mae gennych 30 diwrnod i gynnal gwiriadau caniatâd a phenderfynu a ydych am ei derbyn neu ei dychwelyd.5 Y dyddiad derbyn yw'r dyddiad rydych chi’n cael yr arian gan y safle cyllido torfol. Gall hyn fod yn wahanol i'r dyddiad y cafodd y rhodd ei gwneud. Mae pryd rydych yn cael yr arian yn ddibynnol ar a yw'r llwyfan cyllido torfol yn caniatáu i chi dynnu arian yn ystod eich ymgyrch, ynteu ar ôl iddo ddod i ben.
Mae'n rhaid i chi gydymffurfio â chyfreithiau rhodd ar gyfer unrhyw rodd a gewch yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Mae hyn yn cynnwys rhoddion a wnaed ar eich tudalen cyllido torfol cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau, ond a drosglwyddwyd i chi yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Dylech gofnodi gwybodaeth am bob rhodd rydych yn ei gwirio, gan y bydd angen i chi adrodd y manylion hyn yn eich ffurflen.
Gwirio rhoddion preifat
Rhodd cyllido torfol preifat yw lle nad yw manylion y rhoddwr yn weladwy ar dudalen cyllido torfol preifat, ond bod y wybodaeth hon yn cael ei darparu i'r person a greodd y dudalen.
Cewch dderbyn rhoddion cyllido torfol preifat, ar yr amod bod gennych chi'r manylion angenrheidiol i wirio a ydynt yn rhoddwyr a ganiateir.
Pan fyddwch yn cael rhodd cyllido torfol preifat dros £500, dylech sicrhau bod gennych ddigon o wybodaeth am y rhoddwr i gynnal gwiriadau caniatâd.
Er enghraifft, petaech chi'n cael rhodd o £600 gan unigolyn sydd wedi darparu enw a chyfeiriad e-bost yn unig, dylech gysylltu â'r rhoddwr i ofyn am ei gyfeiriad cartref. Bydd angen y wybodaeth hon arnoch i wirio a yw'r unigolyn ar gofrestr etholiadol y DU, ac felly'n rhoddwr a ganiateir.
Os na allwch wirio bod y rhoddwr yn un a ganiateir o'r wybodaeth sydd gennych, mae'n rhaid i chi ddychwelyd y rhodd.
Dychwelyd rhoddion nas caniateir
Os na allwch nodi'n union pwy yw’r rhoddwr, neu os yw'r rhoddwr yn un nas caniateir, mae’n rhaid i chi ddychwelyd y rhodd o fewn 30 diwrnod o'i derbyn.6 Efallai bydd y llwyfan cyllido torfol rydych yn ei ddefnyddio yn caniatáu i chi ddychwelyd y rhodd yn uniongyrchol i'r rhoddwr.
Os na allwch ddychwelyd y rhodd i'r rhoddwr, dylech ei dychwelyd i'r sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo’r rhodd. Gallai hyn fod y llwyfan cyllido torfol rydych yn ei ddefnyddio, neu'r banc a drosglwyddodd y rhodd ar ran y llwyfan.
Os nad oes modd dychwelyd y rhodd i'r rhoddwr neu'r sefydliad ariannol, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda gan fod rheidrwydd i chi anfon y rhodd i’r Comisiwn Etholiadol. Byddwn yn ei thalu i mewn i'r Gronfa Gyfunol, a reolir gan Drysorlys Ei Fawrhydi.7 Cysylltwch â ni i drefnu trosglwyddiad yr arian hwn.
- 1. Atodlen 6, paragraff 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 6, para. 4(2) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 6, para. 6(1)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 6, para. 9 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 61 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2), adran 57(1)(a) a (b) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 6, para. 7 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 56(2), adran 57(1)(c) a (3) PPERA ↩ Back to content at footnote 7