Data lleol yw unrhyw set o ddata a gesglir gan gorff arall, neu gan unrhyw awdurdod lleol, gan gynnwys eich awdurdod lleol eich hun.
Mae enghreifftiau o ddata lleol sydd ar gael i chi yn cynnwys:
data treth gyngor
data gofal cymdeithasol oedolion
data biliau a thaliadau awdurdodau lleol
data trwyddedau parcio
data derbyniadau i ysgolion
data bathodynnau glas
cofnodion gwasanaethau cwsmeriaid
data cyflogresi
data cofrestrwyr
data tai a rhent
data tanysgrifiad i wasanaethau gwastraff gwyrdd/gardd
data aelodaeth o gyfleusterau'r cyngor (er enghraifft, llyfrgelloedd neu gampfeydd)
Nid ystyrir bod ffynonellau gwybodaeth eraill, megis adnabod rhywun yn bersonol neu wybodaeth a roddir ar lafar, yn ffynonellau data lleol.
Eich pwerau i ofyn am ddata lleol
Fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, mae gennych hawl gyfreithiol i weld setiau data lleol ac archwilio a chopïo cofnodion a gedwir ar ba ffurf bynnag gan:1
y cyngor a'ch penododd
unrhyw gofrestrydd genedigaethau, marwolaethau a phriodasau, gan gynnwys unrhyw uwcharolygydd
unrhyw berson, gan gynnwys cwmni neu sefydliad, sy'n darparu gwasanaethau i'r cyngor, neu sydd â'r awdurdod i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r cyngor; mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n darparu gwasanaethau 'ar gontract' o dan unrhyw gytundeb cyllid
Nid oes unrhyw gyfyngiadau statudol na chyfyngiadau eraill, gan gynnwys deddfwriaeth diogelu data, y gellir eu defnyddio i wrthod rhoi gwybodaeth o'r fath i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol.2
Mae gennych hawl gyfreithiol hefyd i ofyn i unrhyw un arall roi gwybodaeth i chi er mwyn cynnal y gofrestr etholiadol.3
Gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol weld data o'r fath yn unol â darpariaethau diogelu data gan fod sail gyfreithlon dros eu prosesu, sef cyflawni tasg gyhoeddus er budd y cyhoedd.
Os bydd unrhyw un yn methu â chydymffurfio â'ch cais ac yn gwrthod rhoi'r wybodaeth ofynnol y gofynnir amdani, gall fod yn briodol i chi dynnu ei sylw at y ffaith y bydd cosb droseddol, sef dirwy o hyd at £1,000, yn cael ei rhoi am fethu â darparu'r wybodaeth ofynnol.
Efallai yr hoffech hefyd drafod â'ch Swyddog Diogelu Data a fyddai Cytundeb Rhannu Data o bosibl yn hwyluso'r broses o gael gafael ar ddata lleol.