Pryd y gallaf gynnal ymarfer paru data lleol a faint o amser y bydd yn ei gymryd?
Os ydych wedi penderfynu cynnal unrhyw fath o ymarfer paru data lleol, bydd angen i chi benderfynu pryd y caiff ei gynnal. Gall ymarfer paru data lleol fod yn ddefnyddiol pan gaiff ei gynnal naill ai cyn neu ar ôl y cam paru data cenedlaethol neu, yn wir, ar y ddau gam.
Gall eich penderfyniad ar amseriad unrhyw ymarfer paru data lleol ddibynnu ar y canlynol:
pryd y gellir darparu'r data i chi a phryd rydych yn bwriadu eu defnyddio, er enghraifft mae'r data mwyaf diweddar ar fyfyrwyr yn debygol o fod ar gael ar ddechrau'r flwyddyn academaidd
pa mor gyfredol yw'r data; data lleol fydd y data mwyaf cywir a defnyddiol ar gyfer ymarfer paru data os byddant wedi'u diweddaru'n ddiweddar
maint y set ddata ac a ydych yn cynnal ymarfer paru cofrestr rannol neu lawn; gall hyn gael effaith ar faint o amser a fydd gennych i ddadansoddi'r canlyniadau cyn neilltuo eiddo i lwybrau canfasio
ym mha fformat y cedwir y data ac a fydd angen eu prosesu cyn i chi allu eu defnyddio
Efallai y bydd cynnal ymarfer paru data lleol cyn y cam paru data cenedlaethol yn rhoi mwy o amser i chi ddadansoddi canlyniadau eich ymarfer paru data lleol.
Fel arall, gall gwirio data sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd yn lleol, megis data treth gyngor, ar ôl y cam paru data cenedlaethol ac mor agos ag sy'n ymarferol at yr adeg rydych yn gwneud eich penderfyniad ynghylch neilltuo eiddo i lwybrau canfasio wella ansawdd canlyniadau eich ymarfer paru data, gan eich galluogi i neilltuo mwy o eiddo i'r llwybr mwyaf priodol.
Gwirio gwybodaeth am eiddo gwag a di-rym fel rhan o ymarfer paru data lleol
Gallai ymarfer paru data lleol gynnwys gwirio'r wybodaeth sydd gennych am eiddo gwag neu ddi-rym. Os byddwch yn cymharu eiddo gwag a di-rym yn erbyn ffynonellau data lleol megis cofnodion y dreth gyngor, dylai eich cynllun adlewyrchu hyn a darparu ar gyfer pryd a sut y byddwch yn gwneud hynny.
Nid yw eiddo gwag a di-rym wedi'i eithrio rhag y canfasiad blynyddol ond mae wedi'i eithrio'n awtomatig rhag y cam paru data cenedlaethol. Y rheswm dros hyn yw nad oes unrhyw fanylion am etholwyr unigol y gellir eu paru â chofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os na all eich ymarfer paru data lleol gadarnhau bod eiddo'n wag neu'n ddi-rym, bydd angen ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 2 – sef y llwybr eiddo heb ei baru. Os na allwch gadarnhau bod eiddo yn dal i fod yn wag neu'n ddi-rym, gellir ei neilltuo i Lwybr 1 – sef y llwybr eiddo wedi'i baru.
Mae'n bwysig cofio, unwaith y bydd eiddo wedi'i neilltuo i lwybr, bydd yn rhaid i chi gymryd yr holl gamau angenrheidiol cyn cau'r cylch cysylltu. Ni allwch ddefnyddio data lleol i gau cylch cysylltu.