Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Monitro a gwerthuso llwyddiant eich strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd
Monitro a gwerthuso llwyddiant eich strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd
Mae gwerthusiadau yn hanfodol er mwyn mesur effeithiolrwydd prosiect a dangos cyflawniadau.
Mae angen i'ch strategaeth ymgysylltu a'ch cynllun cofrestru gael eu diweddaru er mwyn adlewyrchu canfyddiadau eich gwaith monitro a gwerthuso. Dylech eu diweddaru er mwyn adlewyrchu'r gwersi a ddysgwyd o'r gwaith a wnaed gennych eisoes a chynnwys unrhyw wybodaeth newydd am eich ardal gofrestru.
Bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i barhau i fireinio'r darlun sydd gennych o ddemograffeg eich ardal, yn cadarnhau'r heriau allweddol o ran ymgysylltu â'ch preswylwyr ac yn mesur y gweithgareddau sydd fwyaf effeithiol wrth ymgysylltu â chynulleidfaoedd targed gwahanol
Dylech amlinellu sut y byddwch yn mynd ati i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y gweithgareddau a'r tactegau ymgysylltu â'r cyhoedd a ddefnyddiwyd gennych i ymgysylltu â'ch grwpiau targed yn ystod y canfasiad diwethaf, mewn etholiadau arfaethedig, ac wrth i chi barhau i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cofrestru. A wnaethoch gyrraedd eich cynulleidfa darged?
Mesur llwyddiant eich gweithgareddau ymgysylltu?
Er mwyn gwerthuso llwyddiant gweithgarwch, mae'n bwysig bod gennych amcanion clir a mesuradwy a dylid sicrhau bod cysylltiad clir rhwng unrhyw fesurau gwerthuso a'r amcanion cychwynnol.
Mae'n debygol y bydd angen defnyddio amrywiaeth o ddulliau i werthuso prosiect. Er mwyn nodi'r dulliau gwerthuso mwyaf priodol, dylech ddiffinio'r cwestiynau y dylid eu gofyn yn y gwerthusiad ac ystyried sut y gellid ateb y cwestiynau hyn.
Mae amrywiaeth o ddulliau y gellir eu defnyddio i asesu effeithiolrwydd eich gweithgarwch. Gall rhai ohonynt fod yn seiliedig ar ymddygiad (yr hyn y mae pobl wedi'i wneud, yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd) a gall rhai ohonynt fod yn seiliedig ar ganfyddiad (yr hyn y mae pobl yn credu iddo ddigwydd).
Nodir isod rai dulliau o gasglu tystiolaeth a fydd yn cefnogi eich gwerthusiad:
- cofnodi adborth gan y cyhoedd mewn digwyddiadau neu drwy eich gwefan
- cofnodi nifer yr ymatebion o ganlyniad i'r gweithgarwch
- cofnodi nifer yr ymholiadau sy'n ymwneud â'r pwnc
- cofnodi nifer y bobl sy'n ymweld â'r wefan yn gofyn am wybodaeth
- cofnodi unrhyw adborth a ddarparwyd ar y cyfryngau cymdeithasol
- dosbarthu holiaduron gwerthuso neu ffurflenni adborth ar ddiwedd digwyddiad
- cynnal arolwg barn y cyhoedd i ganfod p'un a oedd y cyhoedd yn ymwybodol o'ch gweithgarwch, eu barn arno ac a wnaethant weithredu o ganlyniad iddo
- arolygon cyn y gweithgarwch ac ar ôl y gweithgarwch i ganfod a yw gwybodaeth ac ymwybyddiaeth pobl o'r broses gofrestru wedi cynyddu o ganlyniad i'r gweithgarwch
- cyfweliadau â rhanddeiliaid i ganfod eu barn ar y gweithgarwch
- grwpiau ffocws a gynhelir â phreswylwyr i gasglu adborth – fel rhan o ddigwyddiadau eraill o bosibl
Mae hefyd yn bwysig ceisio mesur:
- ffactorau amgylcheddol neu sŵn cefndir: i ba raddau y mae cyfranogiad cynyddol yn deillio o'ch gweithgarwch neu o ryw ffactorau eraill?
- yr achos sylfaenol: h.y. beth fyddai wedi digwydd pe na bai'r gweithgarwch yn bodoli?
- nifer y bobl berthnasol a amlygwyd i'r gweithgarwch.
- sawl gwaith y cafodd pobl eu hamlygu i'r gweithgarwch
- unrhyw gynnydd yn nifer y bobl sy'n gweithredu, fel cofrestru i bleidleisio
- unrhyw adborth cadarnhaol gan y sawl sy'n cymryd rhan mewn cynllun
- a yw dealltwriaeth pobl o'r broses wedi gwella
- unrhyw gynnydd yn nifer y ceisiadau am wybodaeth
Mae angen i'r cynllun gwerthuso nodi pwy fydd yn cymryd rhan yn y broses werthuso a phwy fydd yn gyfrifol am y rhannau gwahanol o'r gwerthusiad.
Dylid mynd ati i fonitro cynnydd a chynnal y broses werthuso ar ddiwedd pob cyfnod allweddol o weithgarwch cofrestru er mwyn sicrhau bod gweithgareddau yn effeithiol ac yn parhau i fod yn briodol.
Er ei fod yn bwysig cynnal gwerthusiad sydd mor eang â phosibl, dylid ystyried yr adnoddau a ddyrannwyd a dylai cost y gwerthusiad fod yn gymesur â chost y prosiect.
Efallai na fyddwch yn gallu gwerthuso popeth mor fanwl ag y byddech yn ei ddymuno a dylech nodi unrhyw gyfyngiadau i'r gwerthusiad yn eich cynlluniau, gan gynnwys unrhyw risgiau posibl i ddibynadwyedd a dilysrwydd y gwerthusiad a'r canfyddiadau.
Dylai eich cynlluniau gwerthuso nodi rhanddeiliaid perthnasol, fel awdurdodau lleol eraill, y gallai fod ganddynt ddiddordeb yn y gwerthusiad ac y dylid rhannu'r canfyddiadau â nhw.