Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Cynadleddau i'r wasg a digwyddiadau i'r cyfryngau

Ystyrir bod cynhadledd i'r wasg neu ddigwyddiad i'r cyfryngau yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir os caiff y fath beth ei drefnu gennych neu ar eich rhan, a'i fod yn bodloni'r prawf diben.

Os nad ydych yn gwahodd y cyfryngau yn benodol i ddigwyddiad agored rydych yn ei gynnal, ond bod y cyfryngau yn bresennol beth bynnag, ni chaiff ei ystyried yn ddigwyddiad i'r cyfryngau fel rheol. Fodd bynnag, gall gael ei ystyried yn rali neu'n ddigwyddiad cyhoeddus, lle mae'r cyfreithiau yn gymwys.

Os byddwch yn cynnal digwyddiad i aelodau yn unig a'ch bod yn gwahodd y cyfryngau iddo, digwyddiad i'r cyfryngau fydd hwn fel arfer.
 

Cost cynadleddau i'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill

Cost cynadleddau i'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill

Mae hyn yn cynnwys cost prynu, defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • cyfarpar
  • safle neu gyfleusterau

a ddefnyddir i baratoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau i'r wasg neu ddigwyddiadau eraill i'r cyfryngau.

Costau eraill

Mae'n cynnwys costau unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth baratoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau'r wasg neu ddigwyddiadau eraill i'r cyfryngau.

Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar mewn perthynas â pharatoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau'r wasg neu ddigwyddiadau eraill i'r cyfryngau.
 

Press releases

Datganiadau i'r wasg

Bydd y cyfryngau yn aml yn gofyn i sefydliadau wneud sylw am fater neu ddigwyddiad penodol. Os byddwch yn ymateb i ymholiadau gan y cyfryngau, nid ystyrir bod unrhyw sylw neu ddatganiad a wneir gennych yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.

Fel rheol nid ystyrir bod datganiadau i'r wasg yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir os mai dim ond at y cyfryngau y cânt eu hanfon.

Mae eithriad ar gyfer cynnwys a gynhwysir mewn papur newydd neu gyfnodolyn heblaw hysbysebion. Gweler Cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd am ragor o wybodaeth.

Enghraifft

Mae sefydliad yn cynnal ymgyrch yn canolbwyntio ar les anifeiliaid. Pan gaiff etholiad cyffredinol Senedd y DU ei gyhoeddi, mae'n cymharu polisïau presennol ac arfaethedig y prif bleidiau gwleidyddol mewn perthynas â lles anifeiliaid yn y DU mewn datganiad i'r wasg. Yn ei ddatganiad, mae'n mynegi cefnogaeth o blaid polisïau dau o'r pleidiau ac yn annog y cyhoedd i bleidleisio dros y pleidiau hyn yn etholiad cyffredinol Senedd y DU sydd ar ddod.

Mae'r ymgyrchydd yn anfon y datganiad i'r wasg i'r cyfryngau yn gyntaf, ac ni chaiff ei gyhoeddi yn unrhyw le arall. Gan mai dim ond â'r cyfryngau y caiff y datganiad i'r wasg ei rannu, ni chaiff hyn ei ystyried yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.

Wythnos yn ddiweddarach, mae'r ymgyrchydd yn rhannu'r datganiad i'r wasg ar ei wefan a'i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Gan fod cynnwys y datganiad i'r wasg yn bodloni'r prawf diben, caiff hyn ei ystyried yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Rhagfyr 2023