Mae ymgyrchydd di-blaid yn cymryd rhan mewn ymgyrchu ar y cyd pan fo’r amgylchiadau a ganlyn i gyd yn bresennol:
pan fydd yn ymuno â chynllun neu drefniant arall gydag un neu fwy o ymgyrchwyr di-blaid eraill
pan fydd pob ymgyrchydd di-blaid dan sylw yn bwriadu achosi gwariant a reolir yn unol â’r cynllun neu’r trefniant hwnnw
pan fydd un neu fwy o’r ymgyrchwyr di-blaid dan sylw yn wirioneddol yn achosi gwariant a reolir yn unol â’r cynllun neu’r trefniant, a
phan fo’n rhesymol ystyried bod y cynllun neu’r trefniant hwnnw’n un sy’n bwriadu cyflawni diben cyffredin.1
Beth yw ymgyrchu ar y cyd?
Ni allwch fynd i wariant ar y cyd os nad ydych yn bwriadu gwario arian – er enghraifft os bydd gwaith yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr.
Rydym yn cydnabod y gall ymgyrchwyr fod wedi dod ynghyd i ymgyrchu mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, ac y gall y ffyrdd y mae ymgyrchwyr yn rhyngweithio ag ymgyrchwyr eraill newid yn ystod ymgyrch.
Os ydych yn ystyried dechrau ymgyrch ar y cyd a hoffech gael cyngor, neu rydych yn ansicr a ydych chi ac ymgyrchydd arall yn cydweithio fel rhan o ymgyrch ar y cyd, gallwch anfon e-bost atom neu ein ffonio am gyngor.