Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Prif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr
Pan geir ymgyrch ar y cyd, gall un o’r ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig gytuno i gyflwyno adroddiad ar yr holl wariant ymgyrchu ar y cyd gan bob un o’r ymgyrchwyr di-blaid sy’n rhan o’r ymgyrch ar y cyd.
Mae’r ymgyrchydd di-blaid cofrestredig sy’n cytuno i adrodd am holl wariant yr ymgyrch ar y cyd yn cael ei adnabod fel y prif ymgyrchydd.1 Mae ymgyrchydd di-blaid y mae ei wariant ymgyrchu ar y cyd yn cael ei adrodd gan brif ymgyrchydd yn cael ei adnabod fel mân ymgyrchydd.2
Pan fo grŵp o ymgyrchwyr yn gwario ar y cyd dros y trothwy hysbysu ond nad yw rhai o’r ymgyrchwyr hynny’n cyrraedd y trothwy hysbysu, mae’r cyfreithiau ynghylch prif ymgyrchwyr/mân ymgyrchwyr yn caniatáu i un ymgyrchydd, sef y prif ymgyrchydd, gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn ac adrodd yr holl wariant ar yr ymgyrch ar y cyd. Does dim rhaid i’r mân ymgyrchwyr gyflwyno hysbysiad.
Gwariant gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr
Gwariant gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr
Gwariant gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr
Bydd yr holl wariant ar yr ymgyrch ar y cyd, boed gan y prif ymgyrchydd neu’r mân ymgyrchydd/ymgyrchwyr, yn cyfrif tuag at derfyn gwariant y prif ymgyrchydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir.3
Gwariant gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr
Os ydych yn brif ymgyrchydd, bydd eich gwariant chi ac unrhyw wariant gan eich mân ymgyrchwyr fel rhan o'r ymgyrch ar y cyd yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant chi yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Galwn fân ymgyrchwyr sydd wedi cytuno i chi adrodd ar eu rhan yn ‘eich mân ymgyrchwyr’.
Mae'n rhaid i brif ymgyrchwyr fod wedi'u cofrestru, ond ni all mân ymgyrchwyr fod wedi'u cofrestru.
Os ydych yn fân ymgyrchydd, yna nid yw unrhyw wariant ar y brif/mân ymgyrch ar y cyd yn cyfrif tuag at gyfanswm eich gwariant. Mae hyn yn gymwys i'r canlynol:
- eich gwariant eich hun ar yr ymgyrch ar y cyd
- gwariant y prif ymgyrchydd ar yr ymgyrch ar y cyd
- gwariant unrhyw fân ymgyrchydd arall ar yr ymgyrch ar y cyd
Felly, ar gyfer cyfanswm eich gwariant eich hun, dim ond y canlynol y mae angen i chi ei gyfrif:
- eich gwariant eich hun y tu allan i unrhyw ymgyrch ar y cyd
- unrhyw wariant gan eich partneriaid mewn ymgyrch gyffredin ar y cyd
Gwariant gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr
Er mwyn penderfynu a yw mân ymgyrchydd yn cyrraedd y trothwy hysbysu neu’r trothwy adrodd, rhaid peidio â chynnwys gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd wrth benderfynu ar y terfynau:
- os yw’r gwariant yn rhan o ymgyrch ar y cyd sydd wedi’i hysbysu i’r Comisiwn (ac os felly bydd gwariant y mân ymgyrchwyr ar yr ymgyrch ar y cyd yn cael ei drin fel pe bai wedi’i achosi gan y prif ymgyrchydd a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant y prif ymgyrchydd), ac
- os yw’r ymgyrchydd di-blaid yn fân ymgyrchydd pan fo’n achosi’r gwariant, ac
- os yw cyfanswm y gwariant gan yr ymgyrchydd di-blaid, ac eithrio unrhyw wariant ar yr ymgyrch ar y cyd, yn llai na’r trothwyon adrodd.4
Adroddiadau gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr
Mae hyn yn golygu y gall mân ymgyrchwyr barhau i fod yn anghofrestredig, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd pan fo cyfanswm y gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd dros y trothwy hysbysu.
Adroddiadau gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr
Os mai chi yw'r prif ymgyrchydd, mae'n rhaid i chi adrodd ar y canlynol:
- eich gwariant eich hun ar yr ymgyrch ar y cyd
- unrhyw wariant ar yr ymgyrch ar y cyd gan eich mân ymgyrchwyr
- unrhyw wariant arall a reoleiddir yr aethoch iddo ar wahân i'r ymgyrch ar y cyd.
Mae'n rhaid i'ch ffurflen gwariant hefyd gynnwys derbynebau neu anfonebau ar gyfer unrhyw wariant dros £200 yr aed iddo gennych chi a'ch mân ymgyrchwyr.5
Mae hyn yn golygu y dylech ofyn i'ch holl fân ymgyrchwyr:
- roi gwybod i chi faint maent wedi'i wario ar yr ymgyrch ar y cyd ym mhob rhan o'r DU
- rhoi derbynebau ac anfonebau i chi ar gyfer unrhyw wariant dros £200 ar yr ymgyrch ar y cyd
Os ydych yn fân ymgyrchydd, ac rydych yn gwario hyd at £10,000 (y trothwy hysbysu), a'r terfyn etholaethol, ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir nad ydynt yn gysylltiedig â'r ymgyrch ar y cyd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, nid oes rhaid i chi gyflwyno hysbysiad nac adrodd ar unrhyw wariant gennych.
Y prif ymgyrchydd sy'n gyfrifol am adrodd ar eich gwariant ar y cyd i ni. Er mwyn galluogi'r prif ymgyrchydd i adrodd yn llawn ar yr ymgyrchu ar y cyd, dylech:
- gytuno â'r holl ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau sy'n rhan o'r ymgyrch ar y cyd faint y gallwch ei wario
- dweud wrth eich prif ymgyrchydd faint rydych wedi'i wario ym mhob rhan o'r DU
- dweud wrth eich prif ymgyrchydd faint rydych wedi'i wario ym mhob etholaeth
- darparu derbynebau ac anfonebau ar wariant ar ymgyrchu a reoleiddir sydd dros £200 i'ch prif ymgyrchydd
Enghraifft
Mae Save the Rivers a thri ymgyrchydd arall yn penderfynu cydweithio fel rhan o ymgyrch ar y cyd yng Nghymru. Mae pob un wedi cytuno y bydd pob un yn gwario £9,000 ar yr ymgyrch ar y cyd. Mae Save the Rivers hefyd yn bwriadu gwario £5,000 ychwanegol ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir nad ydynt yn gysylltiedig â'r ymgyrch ar y cyd. Nid yw'r tri ymgyrchydd arall yn gwario unrhyw arian arall ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Y trothwy adrodd ar gyfer gwariant yng Nghymru yw £10,000. Gan y bydd cyfanswm y gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd yn £36,000 (sydd dros y trothwy adrodd), os caiff yr ymgyrch hon ei rhedeg fel ymgyrch gyffredin ar y cyd yna bydd angen i'r pedwar ymgyrchydd gofrestru ac adrodd ar y gwariant yn unigol.
Gan mai Save the Rivers sy'n bwriadu gwario'r swm mwyaf o arian ar ymgyrchu, ac i leihau'r baich rheoliadol ar y tri ymgyrchydd arall, mae'n penderfynu bod yn brif ymgyrchydd. Cyn yr eir i unrhyw wariant, mae'n cyflwyno hysbysiad heb ddatganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd. Nid yw Save the Rivers yn gwneud y datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd gyda'i hysbysiad gan fod cyfanswm bwriadedig ei wariant a reoleiddir (£41,000 sy'n cynnwys cyfanswm y gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd, sef £36,000, yn ogystal â'i wariant ei hun ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, sef £5,000) yn uwch na'r trothwy adrodd.
Mae Save the Rivers hefyd yn hysbysu'r Comisiwn mai ef yw'r prif ymgyrchydd, ac mai mân ymgyrchwyr yn yr ymgyrch ar y cyd yw'r tri ymgyrchydd arall.
Gan fod y tri ymgyrchydd arall wedi cael eu hysbysu fel mân ymgyrchwyr ac, y tu allan i'r ymgyrch ar y cyd nid ydynt wedi mynd dros y trothwy hysbysu (£10,000) na'r terfyn etholaethol, nid oes angen iddynt gyflwyno hysbysiad i ni nac adrodd ar eu gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd.
Fel y prif ymgyrchydd, mae'n rhaid i Save the Rivers adrodd ar werth £36,000 o wariant, sef cyfanswm ei wariant a gwariant y tri mân ymgyrchydd ar yr ymgyrch ar y cyd ar ôl yr etholiad. Mae'n rhaid iddo hefyd adrodd ar y £5,000 ychwanegol y mae'n ei wario y tu allan i'r ymgyrch ar y cyd.
Mae'r tri mân ymgyrchydd yn rhoi manylion i Save the Rivers am y gwariant, ynghyd â derbynebau ac anfonebau ar gyfer unrhyw wariant yr aethant iddo dros £200, fel y gall gynnwys y wybodaeth hon yn y ffurflen.
- 1. Adran 94A(3)(a) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 94A(3)(b) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 94B(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 94B o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 91(2), adran 94(2) ac adran 96(3)(a) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 5