Pan geir ymgyrch ar y cyd, mae’r holl wariant ar yr ymgyrch ar y cyd honno yn cyfrif tuag at derfyn gwariant pob un o’r ymgyrchwyr di-blaid sy’n rhan o’r ymgyrch ar y cyd.
Ymgyrchoedd cyffredin ar y cyd
Os bydd ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn gweithio gyda'i gilydd fel rhan o ymgyrch ar y cyd heb brif ymgyrchydd, galwn hynny'n ‘ymgyrch gyffredin ar y cyd’.
Os ydych yn ymgyrchydd nad yw'n blaid mewn ymgyrch gyffredin ar y cyd, mae'n rhaid i chi gofnodi'r gwariant cyfunol a reoleiddir ar yr ymgyrch ar y cyd gan y bydd yn cyfrif tuag at y terfynau gwariant ar gyfer pob ymgyrchydd nad yw'n blaid dan sylw, gan gynnwys chi eich hun.
Os na fyddwch yn cyflwyno hysbysiad, ni allwch wario mwy na £10,000 yn ystod cyfnod a reoleiddir ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, gan gynnwys gwariant ar ymgyrchu ar y cyd gan eich partneriaid ymgyrchu ar y cyd.
Os ydych yn ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid sy'n ymwneud ag ymgyrch ar y cyd ac rydych yn gwario mwy na'r trothwyon adrodd, mae'n rhaid i chi adrodd ar eich gwariant eich hun ar yr ymgyrch ar y cyd. Nid oes rhaid i chi adrodd ar wariant eich partneriaid ymgyrchu ar y cyd, ond mae'r gwariant hwnnw yn cyfrif tuag at gyfanswm eich gwariant a reoleiddir. Dylech adrodd ar gyfanswm yr hyn y gwnaeth eich partneriaid ei wario ar yr ymgyrch ar y cyd.
Enghraifft
Rydych chi ac ymgyrchydd arall nad yw'n blaid yn cytuno i wario £8,000 ar ymgyrch gyffredin ar y cyd yn yr Alban. Felly, caiff cyfanswm o £16,000 ei wario ar yr ymgyrch ar y cyd.
Mae'n rhaid i'r ddau ohonoch gyfrif £16,000 tuag at gyfanswm eich gwariant a reoleiddir.
Gan fod y cyfanswm hwn dros £10,000, sef y trothwy hysbysu ledled y DU a'r trothwy adrodd yn yr Alban, mae'n rhaid i chi a'r ymgyrchydd arall gyflwyno hysbysiadau i'r Comisiwn cyn gwario dros y swm hwn. Gan eich bod yn bwriadu gwario dros y trothwy adrodd, ni all yr hysbysiadau gynnwys y datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd.
Mae'n rhaid i bob ymgyrchydd adrodd ar ei wariant ei hun yn ei ffurflen gwariant. Dylai pob ymgyrchydd hefyd adrodd ar gyfanswm gwariant ei bartner ymgyrchu ar y cyd.