Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru

| Argraffu'r canllawiau llawn

Y person cyfrifol

Rhaid i chi benodi person cyfrifol pan fyddwch chi’n cofrestru fel ymgyrchydd nad yw’n blaid. Y person hwn sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid yn dilyn y deddfau ar wariant, rhoddion ac adrodd a nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Os ydych chi’n cofrestru fel unigolyn, chi fydd y person cyfrifol yn awtomatig.1  Mae’n rhaid i bob categori arall o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau enwebu rhywun i fod yn berson cyfrifol wrth gofrestru.2

Os ydych wedi cofrestru fel ymgyrchydd nad yw’n blaid unigol neu eich bod eisoes yn berson cyfrifol ar gyfer ymgyrchydd cofrestredig arall nad yw’n blaid, ni allwch gael eich penodi fel person cyfrifol ar gyfer ymgyrchydd cofrestredig arall nad yw’n blaid.3

Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod systemau addas ar waith i sicrhau bod gwariant a rhoddion yn cael eu trin yn gywir. Rhaid iddynt hefyd wneud datganiad mewn perthynas â phob adroddiad i ddweud bod yr adroddiadau’n gyflawn ac yn gywir. Mae’n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu’n fyrbwyll.4

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025