Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru
Gan bwy y gallwch chi dderbyn rhoddion?
Pleidleiswyr tramor: cyngor ar newidiadau arfaethedig i’r gyfraith
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau i gyflwyno cap blynyddol o £100,000 ar gyfer rhoddion a benthyciadau gan bleidleiswyr tramor. Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn ôl-berthnasol i unrhyw roddion a dderbynnir neu fenthyciadau a drefnir o 25 Mawrth 2026 ymlaen. Byddai’r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fil Cynrychiolaeth y Bobl y Llywodraeth.
Byddai’r cap yn berthnasol i bob rhodd a benthyciad a wneir gan bleidleisiwr tramor, nid dim ond y rhai i dderbynnydd unigol. Golyga hyn na allai pleidleisiwr tramor wneud mwy na chyfanswm o £100,000 mewn rhoddion a benthyciadau i unrhyw endid a reoleiddir mewn blwyddyn galendr. Ni fyddai rhoddion a benthyciadau i bleidiau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon gan ddinasyddion Gwyddelig yn cael eu heffeithio.
Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn berthnasol i roddion i bleidiau; ymgeiswyr di-blaid; deiliaid swyddi etholedig; aelodau plaid a chymdeithasau aelodau; ymgyrchwyr refferendwm a deisebau adalw; ac ymgeiswyr (yn amodol ar gydsyniad deddfwriaethol yng Nghymru a'r Alban).
Unwaith y bydd y newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn dod i rym, byddai gan dderbynwyr 30 diwrnod i ddychwelyd unrhyw roddion a dderbyniwyd neu ddod ag unrhyw fenthyciadau a drefnwyd ar 25 Mawrth 2026 neu ar ôl hynny sy'n fwy na'r cap blynyddol o £100,000 i ben.
Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r gyfraith hyd yma. Mae ein canllawiau'n parhau i adlewyrchu’r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried gweithredu nawr fel eich bod yn barod ar gyfer unrhyw newidiadau i’r gyfraith yn y dyfodol, gan gynnwys:
- Nodi a chofnodi pa roddion sydd wedi’u gwneud gan bleidleiswyr tramor. Mae pleidleiswyr tramor wedi’u nodi ar y gofrestr etholiadol. Os nad oes gennych fynediad at y gofrestr etholiadol, efallai y byddwch yn dymuno gofyn am y wybodaeth hon gan roddwyr wrth wirio a ydynt yn rhai a ganiateir.
- Gwirio cofrestrau o roddion a benthyciadau yr adroddwyd arnynt i nodi a allai unrhyw roddwr tramor fod wedi rhoi neu fenthyca mwy na £100,000 ym mhob blwyddyn galendr
- Sicrhau bod gennych fanylion cyswllt cyfredol ar gyfer rhoddwyr tramor, fel y gallwch gysylltu â nhw i ofyn am unrhyw ddatganiadau sydd eu hangen
- Sicrhau eich bod yn dal gafael ar adnoddau digonol i ddychwelyd rhoddion neu ddod â benthyciadau gan bleidleiswyr tramor i ben os oes angen
Cyngor dros dro yw hwn, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch y cynigion hyn. Byddwn yn diweddaru’r nodyn cyngor hwn pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol. Am wybodaeth bellach, gweler y datganiad ysgrifenedig gweinidogol hwn neu cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Ffynhonnell a ganiateir:
- unigolyn sydd wedi’i gofrestru ar un o gofrestrau etholwyr y DU, gan gynnwys etholwyr tramor a’r rhai sy’n gadael cymynroddion
- cwmni sydd wedi’i gofrestru yn y DU ac sy’n gwmni corfforedig yn y DU ac sy’n cynnal busnes yn y DU
- undeb llafur sydd wedi’i gofrestru yn y DU
- cymdeithas adeiladu sydd wedi’i chofrestru yn y DU
- partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) sydd wedi’i chofrestru yn y DU ac sy’n cynnal busnes yn y DU
- cymdeithas gyfeillgar, diwydiannol neu ddarbodus sydd wedi’i chofrestru yn y DU
- cymdeithas anghorfforedig yn y DU sydd wedi’i lleoli yn y DU ac sy’n cynnal busnes neu weithgarwch arall yn y DU
Gallwch hefyd dderbyn rhoddion gan fathau penodol o ymddiriedolaethau.1 Cysylltwch â ni am gyngor o ran sut mae cadarnhau caniatâd ymddiriedolaethau.
Ni ddylech dderbyn rhoddion gan blaid wleidyddol.2
Er y gallwch yn gyfreithiol dderbyn rhoddion gan elusennau os ydynt yn rhoddwyr a ganiateir o dan gyfraith elusennol, ni chaniateir i elusennau fel arfer rhoi rhoddion gwleidyddol o dan gyfraith etholiadol. Os ydych yn gwybod bod rhoddwr dichonadwy yn elusen, dylech wneud yn siŵr eu bod yn cael cyngor gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban, neu Gomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon cyn iddynt roi’r rhodd.
Beth sy’n rhaid i chi ei gofnodi?
Os byddwch yn derbyn rhodd sydd dros £500, mae’n rhaid i chi gofnodi’r manylion hyn:
- y manylion gofynnol ar gyfer y math o roddwr3 (mae’r rhain wedi’u nodi ar y tudalennau canlynol)
- swm y rhodd (os yw’n ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (os yw’n anariannol)4
- y dyddiad y cawsoch y rhodd
- y dyddiad y derbynioch y rhodd5
Rhaid i chi gofnodi cyfeiriad y rhoddwr fel y mae’n cael ei ddangos ar y gofrestr statudol berthnasol.
Bydd angen y manylion hyn arnoch pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am rodd.
- 1. Atodlen 11, paragraff 6(3) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 1(6) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 10(1)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 11, para. 10(1)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 11, para. 10(1)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 5