Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru

| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth i’w wneud os byddwch yn derbyn rhodd o ffynhonnell nas caniateir neu roddwyr anhysbys?

Os byddwch yn derbyn rhodd ac nad yw’n un a ganiateir, rhaid i chi ei dychwelyd o fewn 30 diwrnod. Os bydd eich sefydliad yn cadw’r rhodd nas caniateir ar ôl y 30 diwrnod, ystyrir eich bod wedi’i derbyn. 

Os yw eich sefydliad yn derbyn rhoddion nas caniateir, gallech fod yn destun cosbau sifil. Efallai bod yr ymgyrchydd a’r person cyfrifol hefyd wedi cyflawni troseddau. Bydd unrhyw doriad posibl yn cael ei drin yn unol â’n Polisi Gorfodi.

Os ydych wedi derbyn rhodd nas caniateir, dylech ddweud wrthym cyn gynted â phosibl.

Sut ydych chi’n dychwelyd rhodd nas caniateir?

Os ydych yn gwybod pwy yw’r rhoddwr, mae’n rhaid i chi ei dychwelyd iddo/iddi o fewn 30 diwrnod o dderbyn y rhodd.1

Os daw’r rhodd o ffynhonnell anhysbys (er enghraifft, rhodd arian o £600 yn ddienw), mae’n rhaid i chi, o fewn 30 diwrnod o’i derbyn, ei dychwelyd i: 

  • y sawl a drosglwyddodd y rhodd i chi; neu 
  • y sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo’r rhodd2

Os nad ydych chi’n gwybod pwy yw’r naill na’r llall, rhaid i chi anfon y rhodd i’r Comisiwn Etholiadol.3  Byddwn yn talu’r rhodd i’r Gronfa Gyfunol a reolir gan Drysorlys EF.4  Cysylltwch â ni i drefnu trosglwyddo’r arian hwn fel y gallwn roi manylion ein banc i chi.

Os byddwch wedi ennill llog ar y rhodd cyn i chi ei dychwelyd, gallwch ei gadw. Ni chaiff y llog hwn ei drin fel rhodd ac nid oes angen rhoi gwybod amdano.5

Beth sy’n rhaid i chi ei gofnodi?

Os ydych yn cael rhodd gan ffynhonnell nas caniateir, mae’n rhaid i chi ei ddychwelyd a chofnodi’r manylion hyn:6

  • y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol)
  • os nad oeddech yn gallu nodi hunaniaeth y rhoddwr, manylion o sut gwnaed y rhodd
  • os ydych wedi nodi hunaniaeth y rhoddwr, ond nad oedd wedi’i ganiatau ar yr adeg perthnasol, enw a chyfeiriad y rhoddwr
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd
  • y dyddiad y dychweloch y rhodd
  • y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, y person neu’r sefydliad y gwnaethoch ei dychwelyd iddo)

Bydd angen y manylion hyn arnoch pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am y rhodd a ddychwelwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025