Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Canllaw cryno - Dogfennau nad ydynt ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio

Nid yw'r ddogfennaeth ganlynol ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio, ac eithrio drwy orchymyn llys:

  • papurau pleidleisio
  • rhestrau rhifau cyfatebol wedi'u cwblhau
  • tystysgrifau cyflogaeth y rhai ar ddyletswydd ar y diwrnod pleidleisio
  • y rhestrau o bleidleisiau post a wrthodwyd sydd wedi methu’r gwiriadau dynodydd a’r pleidleisiau post a wrthodwyd ar yr adeg y’i cyflwynwyd (neu y’i gadawyd ar ôl) mewn gorsaf bleidleisio neu i swyddfeydd y cyngor1
  • ffurflenni pleidlais bost2

Ni ellir gweld y dogfennau hyn oni bai bod Uchel Lys neu lys sirol yng Nghymru a Lloegr, neu Lys y Sesiwn neu Siryf yn yr Alban, yn fodlon ar sail tystiolaeth ar lw bod angen y mynediad hwnnw am un o'r rhesymau canlynol:

  • er mwyn cychwyn neu erlyn achos am drosedd yn ymwneud â phapurau pleidleisio
  • at ddibenion deiseb etholiadol

Gall Tŷ'r Cyffredin neu lys etholiadol orchymyn mynediad hefyd.

Nid oes rhaid i'r ceisiadau gael eu gwneud mewn llys agored: gallant gael eu gwneud gan farnwr o'r llys perthnasol mewn llys agored neu fel arall.

Papurau enwebu

Dim ond pobl benodol a all archwilio papurau enwebu nes bod y terfyn amser ar gyfer gwrthwynebiadau wedi mynd heibio, fel y disgrifir yn ein canllawiau ar Bresenoldeb wrth gyflwyno papurau enwebu.  

Ni chaiff neb arall archwilio papurau enwebu ar unrhyw adeg. Dim ond i'r rheini sydd â phŵer cyfreithiol i gael dogfennau y gellir cyflenwi papurau enwebu a dim ond y bobl hyn sydd â'r hawl i'w gweld. Gall hyn gynnwys swyddog yr heddlu sy'n defnyddio unrhyw bwerau a all fod ganddo i feddiannu dogfennau, neu orchymyn llys.

Ac eithrio'r ffurflen cyfeiriad cartref, dylech storio'r papurau enwebu'n ddiogel am flwyddyn ar ôl yr etholiad oherwydd y terfyn amser ar gyfer erlyn yn achos deiseb etholiadol. Os bydd achosion cyfreithiol o'r fath yn digwydd neu'n debygol o ddigwydd, dylech gadw'r papurau enwebu nes bod y llys wedi cwblhau ei waith.

Ffurflenni cyfeiriad cartref  

Rhaid i chi storio ffurflenni cyfeiriad cartref yn ddiogel am gyfnod o 21 diwrnod calendr ar ôl i chi ddychwelyd y gwrit a rhaid iddynt gael eu dinistrio drwy ddulliau diogel y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y cyfnod 21 diwrnod hwnnw. 
 
Os cyflwynir deiseb etholiadol yn ymwneud â'r etholiad o fewn y 21 diwrnod calendr, rhaid i'r ffurflenni cyfeiriad cartref gael eu cadw'n ddiogel nes bod gweithrediadau'r ddeiseb yn cael eu cwblhau (gan gynnwys unrhyw apêl sy'n deillio o'r gweithrediadau hynny). Yna rhaid i chi eu dinistrio'n ddiogel y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i'r gweithrediadau neu'r apêl ddod i ben.  

Rhestrau Gwrthod Papurau Pleidleisio

Yng Nghymru a Lloegr, y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am ymdrin â cheisiadau i ddatgelu gwybodaeth o’r Rhestrau Gwrthod Papurau Pleidleisio. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr.

Yn yr Alban, y Swyddog Canlyniadau sy'n gyfrifol am ymdrin â cheisiadau i ddatgelu gwybodaeth o’r Rhestrau Gwrthod Papurau Pleidleisio. Dim ond i'r etholwr, y gwrthodwyd ei bapur pleidleisio, neu yn achos dirprwy y gwrthodwyd papur pleidleisio iddo, y person sy'n gweithredu fel dirprwy neu'r etholwr yr oedd yn gweithredu fel dirprwy ar ei ran, y cewch ddatgelu gwybodaeth o’r Rhestrau Gwrthod Papurau Pleidleisio.1

Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr

Yng Nghymru a Lloegr, y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am y Ffurflenni Gwerthuso ID Pleidleisiwr a thaflenni nodiadau’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr. Gellir darllen gwybodaeth am y Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr a thaflen nodiadau’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr yn y canllawiau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr.

Yn yr Alban, y Swyddog Canlyniadau sy'n gyfrifol am y Ffurflenni Gwerthuso ID Pleidleisiwr a thaflenni nodiadau’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr I gael rhagor o wybodaeth gweler ein canllawiau ar yr Archwiliad cyhoeddus o ddogfennaeth etholiadol yn yr Alban.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Chwefror 2024