Canllaw cryno - Dogfennaeth etholiadol sydd ar gael i'r heddlu a sefydliadau diogelwch yn yr Alban
Mae gan y Gwasanaeth Diogelwch, Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth a'r Gwasanaeth Cudd-wybodaeth yr hawl i gael copi am ddim o unrhyw ddogfen etholiadol sydd ar gael i'w harchwilio, ac unrhyw ddogfen arall sy'n ymwneud â'r etholiad ar gais. Mae gan yr heddlu (gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol) yr hawl i gael copïau am ddim o unrhyw un o'r rhain ar gais os byddant wedi'u harchwilio hefyd.1
Mae hyn ac eithrio:
papurau pleidleisio
rhestrau rhifau cyfatebol wedi'u cwblhau
tystysgrifau cyflogaeth y rhai ar ddyletswydd ar y diwrnod pleidleisio
Rhaid cyflwyno cyfeiriad at y rheoliad perthnasol sy'n rhoi'r hawl i gyflenwi gyda chais i gael gweld y dogfennau hyn.
Ni chodir tâl am gyflenwi'r dogfennau na'u harchwilio.
Dim ond at y dibenion a nodir yn y rheoliad sy'n rhoi hawl i'r corff gael y gofrestr lawn y gellir cyflenwi gwybodaeth.