Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Beth mae angen i chi wneud gyda ffurflenni gwariant

Rhaid i chi anfon copïau o ffurflenni gwariant etholiad a datganiadau i'r Comisiwn Etholiadol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r ffurflen neu'r datganiad ddod i law.1  Dylech hefyd ddarparu copïau o'r anfonebau a'r derbynebau perthnasol.

A allech hefyd ddarparu'r canlynol er mwyn i ni allu cyflawni ein dyletswyddau ynglŷn â chydymffurfiaeth:

  • ffigurau etholwyr ar gyfer pob etholaeth (a ddefnyddiwyd i gyfrifo terfyn gwariant yr ymgeiswyr
  • y terfyn gwariant a roddwyd i ymgeiswyr, os yw hynny'n gymwys
  • cadarnhad o unrhyw ymgeiswyr na wnaethant gyflwyno ffurflen 
  • datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, hysbysiad o asiantiaid, a datgan canlyniad ar gyfer pob etholiad

Y dull derbyn a ffefrir gennym yw trosglwyddo dogfennau'n ddiogel, a fydd yn gwneud y broses o ddosbarthu'r ffurflenni hyn yn haws i chi. Gall y Comisiwn ddarparu mynediad i system trosglwyddo dogfennau'n ddiogel ar gais. Cysylltwch â ni yn [email protected] i drefnu hyn.

Os byddai'n well gennych e-bostio'r ffurflenni am unrhyw reswm, e-bostiwch gopïau PDF wedi'u sganio i  [email protected]. Bydd o gymorth mawr i ni wrth brosesu ffurflenni gwariant, ac osgoi ymholiadau gennym i chi, os byddwch yn gwneud y canlynol:

  • sganio ffurflen gwariant pob ymgeisydd, gyda'r anfonebau a'r derbynebau perthnasol, ar wahân 
  • anfon pob ffurflen drwy e-bost ar wahân, oherwydd caiff atodiadau mawr iawn eu gwrthod gan ein gweinydd
  • nodi'r etholaeth ac enw'r ymgeisydd yn llinell pwnc yr e-bost 
  • peidio â diogelu negeseuon e-bost drwy ddefnyddio cyfrineiriau na darparu cyfrineiriau na gwefannau diogel – mae e-bost arferol yn iawn

Os nad yw'r un o'r ddau opsiwn uchod yn bosibl, gallwch anfon copïau papur o'r ffurflenni gwariant i'r cyfeiriad canlynol:

Party and Election Finance
The Electoral Commission
3 Bunhill Row
London
EC1Y 8YZ

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Awst 2024