Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Rhoi gwybodaeth i etholwyr am leoliadau gorsafoedd pleidleisio

Mae 'Ble mae fy ngorsaf pleidleisio?' yn gwestiwn cyffredin yn y cyfnod yn arwain i fyny at y diwrnod pleidleisio ac ar y diwrnod pleidleisio ei hun. 

Mewn partneriaeth â Democracy Club, rydym yn darparu adnodd chwilio am godau post ar ein gwefan. Pan fydd pleidleiswyr yn nodi eu cod post, dangosir iddynt ble mae eu gorsaf bleidleisio, a phwy yw eu hymgeiswyr. Gallech gynnwys yr adnodd hwn ar eich gwefan eich hun, gan ddefnyddio'r teclyn, neu ychwanegu dolen i'ch gwefan

Er mwyn hwyluso hyn, mae angen i chi anfon data ar orsafoedd pleidleisio ar gyfer eich ardal at Democracy Club. Pan fyddwch wedi cadarnhau eich gorsafoedd pleidleisio, gallwch allgludo'r data o'ch System Rheoli Etholiad a'u hanfon dros e-bost i [email protected] . Mae cyfarwyddiadau manwl ar gael ar gyfer pob cyflenwr, os bydd eu hangen arnoch.

Rydym hefyd yn darparu'ch manylion cyswllt ar yr adnodd chwilio. Os bydd eich manylion cyswllt yn newid, gofynnwn i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023