Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Rhoi gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid
Sesiynau briffio
Dylech sicrhau eich bod yn cynnig sesiwn friffio i bob darpar ymgeisydd ac asiant cyn y cyfnod enwebu neu ar ddechrau'r cyfnod hwnnw. Dylech hefyd gynnal sesiwn friffio ychwanegol ar ôl cadarnhau'r rhestr o ymgeiswyr sy'n sefyll ar gyfer etholiad ar ôl i'r enwebiadau gau.
Dylai eich sesiwn friffio ymdrin â'r canlynol o leiaf:
- y broses enwebu
- y broses etholiadol
- gwariant etholiad
- defnyddio'r gofrestr etholiadol
- offer a ddarperir i orsaf bleidleisio sy'n gwneud pleidleisio'n haws i bobl anabl
- (ar gyfer etholiadau ar 2 Mai 2024 neu ar ôl hynny) trin pleidleisiau post
Bydd angen i chi benderfynu hefyd sut y caiff gwybodaeth am drefniadau lleol ei darparu. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y dyddiadau, yr amseroedd a'r lleoliadau ar gyfer y prosesau etholiadol allweddol, gan gynnwys y canlynol:
- dosbarthu ac agor pleidleisiau post
- y diwrnod pleidleisio
- y broses ddilysu a chyfrif
Dylai'r sesiynau briffio ddarparu ar gyfer y ffaith nad yw rhai pobl o bosibl yn gwybod fawr ddim am reolau na gweithdrefnau etholiad neu nad ydynt wedi ymwneud ag etholiadau ers peth amser.
Dylai pob sesiwn friffio amlygu pwysigrwydd dilyn rheolau'r etholiad. Dylech hefyd roi gwybodaeth am y safonau ymddygiad rydych yn eu disgwyl gan gefnogwyr yn ardal y man pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.
Rydym wedi llunio templed o gyflwyniad ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid, y gallech fod am ei ddefnyddio fel sail i friffio ymgeiswyr ac asiantiaid yn eich ardal.
Rhoi gwybodaeth ysgrifenedig
Dylech sicrhau y caiff ymgeiswyr ac asiantiaid etholiadol hefyd ganllawiau ysgrifenedig ar y broses etholiadol ac y caiff y wybodaeth ei darparu mewn da bryd er mwyn galluogi ymgeiswyr ac asiantiaid i weithredu arni.
Diben darparu canllawiau ysgrifenedig yw sicrhau bod pleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid yn gallu cael gafael ar ganllawiau awdurdodol a chynhwysfawr er gwybodaeth unrhyw bryd er mwyn sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd rhan mewn etholiad.
Lle y bo'n briodol, gallwch roi dolen i ymgeiswyr ac asiantiaid lle gallant ddod o hyd i'r wybodaeth berthnasol ar-lein, a mater i chi fydd sicrhau y gall ymgeiswyr gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn hawdd a gwneud beth bynnag sydd ei angen i hwyluso hyn.
Hygyrchedd
Dylech sicrhau y gall ymgeiswyr ac asiantiaid gael gafael ar yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn hawdd er mwyn iddynt allu cymryd rhan yn yr etholiad.
Dylech gofio bod gan ymgeiswyr ac asiantiaid o bosibl anghenion mynediad penodol, ac felly efallai y bydd angen unrhyw wybodaeth neu ganllawiau arnynt a luniwyd ar ffurf print bras neu fformat arall, megis Braille neu sain, neu mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg.
Dylech hefyd ystyried y gall fod gan ymgeiswyr ac asiantiaid ofynion arbennig i'w helpu i fynychu sesiynau briffio a dylech sicrhau bod sesiynau briffio ar gael ar-lein neu drwy ddull fideogynadledda lle bynnag y bo'n bosibl.
Gallwch recordio eich sesiwn friffio a'i phostio ar-lein er mwyn i ymgeiswyr ac asiantiaid ei gwylio ar alw ar adeg sy'n gyfleus iddynt, gyda manylion ynghylch sut y gallant ofyn unrhyw gwestiynau dilynol.
Fodd bynnag, bydd angen i chi ystyried sut y gallwch gynnig sesiynau briffio i'r rhai na allant gael gafael ar wybodaeth o'r fath ar-lein, neu'r rhai nad ydynt yn gyfforddus yn gwneud hynny. Efallai y bydd angen i chi ddarparu rhai sesiynau briffio yn bersonol. Dylech hysbysu ymgeiswyr ac asiantiaid am eich dull gweithredu arfaethedig yn gynnar er mwyn eich helpu i gynllunio a pharatoi. Dylid gofyn i'r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn sesiwn friffio gofrestru ymlaen llaw er mwyn i chi allu olrhain niferoedd yn ogystal â gofynion hygyrchedd, a fydd yn eich galluogi i deilwra eich dull gweithredu a rhoi'r trefniadau priodol ar waith.