Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Delio â honiadau o dwyll etholiadol

Ar ôl i chi roi eich cynlluniau ar waith ar gyfer monitro a sicrhau uniondeb yr etholiad yn eich ardal, mae'n bwysig eich bod yn cynnig cyngor clir i ymgeiswyr, asiantiaid ac etholwyr ar sut i wneud honiadau er mwyn sicrhau dull gweithredu effeithiol a chyson mewn perthynas â'u rheoli.   

Dylech sicrhau bod pob ymgeisydd ac asiant yn deall y canlynol:

  • sut i godi pryderon penodol am achosion o dwyll etholiadol sy'n ymwneud â'r etholiad
  • pa fath o dystiolaeth a pha lefel o dystiolaeth y bydd ei hangen er mwyn i'r heddlu allu ymchwilio i honiadau 
  • sut yr ymdrinnir â honiadau 
  • pa wybodaeth ac adborth y dylent allu disgwyl eu cael ynghylch cynnydd unrhyw ymchwiliadau 

Bydd yr heddlu yn ymchwilio i unrhyw honiadau o dwyll hyd nes y bydd yn fodlon, ar ôl ymgynghori â Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) neu, yn yr Alban, â Gwasanaeth Swyddfa'r Goron a'r Procuradur Ffisgal (COPFS), nad oes angen cymryd camau pellach neu nad yw'n briodol gwneud hynny, neu y bydd yn trosglwyddo'r ffeil achos i'r CPS neu COPFS er mwyn iddynt ei erlyn. Dylai'r heddlu eich hysbysu chi a, lle y bo'n briodol, y Swyddog Cofrestru Etholiadol am gynnydd yr achos. 

Mae'r Comisiwn a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (sef Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu gynt) wedi helpu'r Coleg Plismona i lunio llawlyfr o ganllawiau ar gyfer plismona etholiadau yng Nghymru a Lloegr, (sydd hefyd ar gael i'w lawrlwytho o wefan y Comisiwn). Mae Heddlu'r Alban, mewn ymgynghoriad â'r Comisiwn Etholiadol a Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban (EMB), wedi llunio dogfen ganllaw ar gyfer swyddogion yr heddlu yn yr Alban ar atal a chanfod twyll etholiadol.

dogfen i swyddogion yr heddlu yn yr Alban ar atal a chanfod twyll etholiadol

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023