Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU yw 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn y bleidlais.
Ni ellir symud nac ymestyn y terfyn amser hwn am unrhyw reswm.
Gellir cyflwyno papurau enwebu i chi rhwng 10am a 4pm o'r diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad.1
Is-etholiadau Senedd y DU
Yn achos is-etholiad Senedd y DU, chi sy'n pennu'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno enwebiadau, o fewn cyfyngiadau'r amserlen statudol. Ni ddylai'r dyddiad a bennir fod yn gynt na thri diwrnod gwaith ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad ac mae'n rhaid iddo fod o fewn saith diwrnod gwaith i dderbyn y gwrit.
Dylai'r dyddiad a ddewisir gennych roi cymaint o amser â phosibl i ymgeiswyr gyflwyno eu papurau enwebu.
Unwaith y bydd wedi'i bennu, ni ellir symud nac ymestyn y terfyn amser hwn am unrhyw reswm.
Amser cyflwyno papurau enwebu
Ystyrir bod papur enwebu wedi'i gyflwyno pan gaiff ei gyflwyno yn bersonol yn y lle a nodir yn yr hysbysiad etholiad.
I ymgeiswyr plaid sy'n dymuno defnyddio disgrifiad a/neu arwyddlun, rhaid i chi hefyd gael tystysgrif awdurdodi a ffurflen gwneud cais am arwyddlun, fel y bo'n gymwys, yn ystod yr amser a bennir ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Nid oes angen gwneud apwyntiad i gyflwyno papurau enwebu, ond gallech gynnig ac annog apwyntiadau fel ffordd o reoli'r nifer bosibl o enwebiadau a ddaw i law yn ystod y cyfnod byr iawn ar gyfer enwebiadau Senedd y DU.
Yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod ei bapurau enwebu'n cael eu cyflwyno yn y ffordd gywir ac ar amser. Os na chyflwynwyd set gyflawn o bapurau enwebu a'r ernes erbyn yr amser hwnnw, ystyrir nad yw'r enwebiad wedi ei wneud sy'n golygu na allwch ddyfarnu bod yr enwebiad yn ddilys nac yn annilys.