yn yr ardal llywodraeth leol (neu, os oes mwy nag un, unrhyw un o'r ardaloedd llywodraeth leol) lle lleolir yr etholaeth, neu
mewn unrhyw ardal llywodraeth leol sy'n cyd-ffinio â'r ardal llywodraeth leol (neu ardaloedd llywodraeth leol) lle lleolir yr etholaeth
Dylai'r lleoliad a gaiff ei gynnwys ar yr hysbysiad etholiad ar gyfer cyflwyno papurau enwebu fod yn fanwl gywir, a dylai gynnwys unrhyw enw neu rif ystafell. Mae hyn yn sicrhau na fydd unrhyw amheuaeth ynghylch ble y dylid cyflwyno papur enwebu.
Dylech wneud y canlynol:
sicrhau mai dim ond i chi neu eich staff y caiff papurau enwebu eu cyflwyno yn y lleoliad a nodwyd
sicrhau bod y lleoliad wedi'i arwyddo'n glir o fynedfa'r adeilad
sicrhau bod y llwybr yn gwbl hygyrch neu ddarparu opsiwn amgen sydd wedi'i arwyddo'n briodol
rhoi manylion i staff awdurdod lleol eraill, megis staff derbynfa, am beth i'w wneud os bydd rhywun yn ceisio rhoi papur enwebu iddynt, gan nodi'n glir:
na ddylent ddelio â phapurau enwebu
na ddylent gynnig eu cyflwyno
y dylent, yn hytrach, gyfeirio'r sawl sy'n cyflwyno'r ffurflenni atoch chi
Rhaid i chi neu ddirprwy penodedig fod yn bresennol drwy gydol y cyfnod ar gyfer enwebiadau er mwyn delio ag enwebiadau.4