Nid oes unrhyw derfyn ar nifer y ffurflenni enwebu y gellir eu cyflwyno ar gyfer yr un ymgeisydd.
Os caiff ymgeisydd ei enwebu'n ddilys gan fwy nag un ffurflen:
dylai'r ymgeisydd ddewis un o'r ffurflenni enwebu dilys – a gaiff ei hadnabod fel y ffurflen enwebu 'ddethol'
dylai manylion ar y ffurflen enwebu ddethol hon gael eu hychwanegu at y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio
Os na fydd yr ymgeisydd yn dewis ffurflen, rhaid i chi ddewis pa un o'r ffurflenni a gaiff ei defnyddio.1
Caiff ymgeisydd wneud cais i fanylion ei gynigwyr, eilyddion a llofnodwyr eraill ar gyfer hyd at ddwy ffurflen enwebu ddilys arall gael eu hychwanegu at y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd.
Fel y cyfryw, dylai'r datganiad gynnwys lle ar gyfer ychwanegu hyd at 30 o lofnodwyr lle gofynnir am hynny.
Os cyflwynir mwy nag un ffurflen enwebu a bod un o'r papurau enwebu'n annilys:
caiff y ffurflen annilys ei heithrio o'r rhai a all gael eu dewis gan yr ymgeisydd neu gennych chi fel y ffurflen ddethol
cyhyd â bod o leiaf un ffurflen enwebu yn ddilys, gellir enwebu'r ymgeisydd yn ddilys
Bydd llofnodion gan lofnodwyr ar unrhyw ffurflen enwebu a gyflwynir yn cyfrif tuag at yr uchafswm a all lofnodi.2
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar ofynion llofnodwyr.