Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr Share on Email Argraffu'r dudalen hon Argraffu'r canllawiau llawn You are in the Cyflwyno papurau enwebu section Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr Enwebiadau Cyflwyno papurau enwebu Pwy all gyflwyno papurau enwebu? Dim ond y bobl ganlynol a gaiff gyflwyno'r ffurflen enwebu a'r ffurflen cyfeiriad cartref i chi:1 yr ymgeisydd y cynigydd neu'r eilydd fel y mae'n ymddangos ar y ffurflen enwebuasiant etholiad yr ymgeisydd, ar yr amod eich bod wedi derbyn hysbysiad o'i benodiad Gellir cyflwyno'r hysbysiad o benodiad yr asiant etholiad ar yr un pryd â'r ffurflen enwebu a'r ffurflen cyfeiriad cartref.Nid oes unrhyw ddarpariaeth i is-asiantiaid a benodwyd yn etholaethau sirol allu cyflwyno ffurflen enwebu a ffurflen cyfeiriad cartref.Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy a all gyflwyno'r ffurflen cydsynio ag enwebiad, y dystysgrif awdurdodi a'r ffurflenni gwneud cais am arwyddlun. 1. Atodlen 1 Rheol 6 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1 Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Hydref 2024 Book traversal links for Who can deliver nomination papers? Man cyflwyno papurau enwebu Presenoldeb wrth gyflwyno papurau enwebu