Mewn etholiad Senedd y DU, deddfwriaeth sy’n rhagnodi pwy sy’n gallu cyflwyno enwebiadau, felly ni ellir cyflwyno ffurflenni enwebu, ffurflenni cyfeiriad cartref na ffurflenni cydsynio ag enwebiad drwy'r post.
Dim ond y dystysgrif awdurdodi a'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun all gael eu derbyn drwy'r post.
Dylai unrhyw dystysgrifau awdurdodi a ffurflenni gwneud cais am arwyddlun a geir drwy'r post gael eu storio'n ddiogel nes y bydd eu hangen a'u coladu â'r papurau enwebu cyfatebol a gyflwynir yn bersonol fel y bo'n briodol.
Dylai fod proses ar waith gennych i fonitro post sy'n cyrraedd er mwyn sicrhau nad yw'n cynnwys papurau enwebu y mae'n rhaid eu cyflwyno yn bersonol.
Os byddwch yn cael papur enwebu, ffurflen cyfeiriad cartref neu ffurflen cydsynio ag enwebiad drwy'r post, dylech geisio cysylltu â'r ymgeisydd ac esbonio:
na ellir derbyn ei ffurflenni enwebu, cyfeiriad cartref na chydsynio ag enwebiad drwy'r post
bod yn rhaid iddo ef/iddi hi (neu rywun ar ei ran/rhan) gyflwyno'r rhain â llaw yn unol â'r rheolau
mai ei gyfrifoldeb ef/hi yw sicrhau bod hyn yn cael ei wneud erbyn y terfyn amser
nad oes angen paratoi papurau enwebu newydd na chael llofnodwyr newydd
Dylech gadw unrhyw bapurau enwebu a gewch drwy'r post fel y gellir eu casglu ac yna eu cyflwyno i chi yn bersonol. Ni chaniateir i chi na'ch staff gyflwyno'r ffurflenni i'r ymgeisydd.
Ystyrir nad yw'r ymgeisydd wedi'i enwebu:
os byddwch yn cael ffurflen enwebu, ffurflen cyfeiriad cartref neu ffurflen cydsynio ag enwebiad drwy'r post1
os nad ydych wedi cael yr holl ffurflenni enwebu gofynnol erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Ni allwch bennu ffurflenni nad ydynt wedi cael eu cyflwyno na gwneud unrhyw benderfyniad o ran a yw'r papurau hyn yn ddilys.2