| Argraffu'r canllawiau llawn

Presenoldeb wrth gyflwyno papurau enwebu

Dim ond rhai pobl a gaiff fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu ac archwilio a gwrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref. Cewch ragor o wybodaeth am ymdrin â gwrthwynebiadau yn ein canllawiau: Gwrthwynebu enwebiadau

Ar ôl i ymgeisydd gyflwyno ei bapurau enwebu a'i ernes a bod ganddo enwebiad dilys, bydd hawl ganddo fod yn bresennol pan gaiff papurau enwebu ymgeiswyr eraill eu cyflwyno a gwrthwynebu. Yn ogystal â'r ymgeisydd, bydd yr unigolion canlynol hefyd yn gallu bod yn bresennol a gwrthwynebu:1  

  • ei asiant etholiad
  • ei gynigydd neu eilydd, fel y'i nodir ar y ffurflen enwebu

Os mai'r asiant etholiad yw'r ymgeisydd ei hun, gall benodi rhywun arall i fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu a gwrthwynebu. Os bydd ymgeisydd wedi cyflwyno mwy nag un ffurflen enwebu, dim ond y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a ddewiswyd ganddo a gaiff fod yn bresennol. Os na ddewiswyd un, y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a gyflwynwyd gyntaf a gaiff wneud hynny.

Caiff cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ac un unigolyn arall a ddewisir gan ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu, ond ni chânt archwilio na gwrthwynebu papurau enwebu.

Dylech egluro i unigolion sy'n archwilio ffurflen cyfeiriad cartref sy'n gofyn am i gyfeiriad cartref yr ymgeisydd beidio â chael ei gyhoeddi, mai dim ond yr unigolyn sy'n archwilio a ddylai ddefnyddio'r ffurflen i wneud y canlynol:

  • gwrthwynebu'r enwebiad 
  • cyflwyno deiseb etholiadol
  • gwneud cwyn i'r heddlu bod unigolyn wedi gwneud datganiad ffug 

Dylech nodi'n glir i'r unigolyn sy'n archwilio y gall unrhyw ddefnydd arall o'r wybodaeth ar y ffurflen dorri deddfwriaeth diogelu data ac felly y gallai rhywun sy'n defnyddio'r wybodaeth at unrhyw ddiben arall gael ei erlyn.

Dylech storio'r papurau enwebu yn ddiogel a gadael i'r unigolion y rhoddwyd caniatâd iddynt archwilio'r ffurflenni enwebu a chyfeiriad cartref wneud hynny hyd at y terfyn amser ar gyfer gwrthwynebu'r papurau enwebu.2   

Ni ddylech ganiatáu unrhyw archwiliad arall oni bai bod y diben wedi'i awdurdodi gan y gyfraith. Er enghraifft, mae gan yr heddlu'r pŵer i archwilio rhai dogfennau o dan amgylchiadau penodol. Yn yr achosion hyn, dylai'r sawl sy'n gwneud y cais eich hysbysu o'r ddarpariaeth ddeddfwriaethol berthnasol sy'n awdurdodi archwiliad, fel y gallwch fod yn fodlon, wrth ganiatáu mynediad, eich bod yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau mynediad.

Pan fydd y terfyn amser ar gyfer gwrthwynebu wedi mynd heibio, dylech storio'r papurau enwebu'n ddiogel am flwyddyn ar ôl yr etholiad oherwydd y terfyn amser ar gyfer erlyn yn achos deiseb etholiadol. Mae'n rhaid dinistrio’r ffurflen cyfeiriad cartref ar ôl 21 diwrnod.3  

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025